Thursday 18 June 2009

Paneidiau a chacennau diri!



Dydd Sadwrn, Mehefin 12fed

Mae rhyw 36,000 o bobl yn byw yn Esquel ac fe symudodd rai o’r ymsefydlwyr ar draws y paith i edrych am well amodau. Maen nhw´n deud bod rhaid i bawb wneud y daith ar draws y paith o leiaf unwaith i gael gweld yr olygfa…tro nesa falle!

Dwi´n mynd i fod yn byw mewn fflat sy’n sownd i’r Ganolfan Gymraeg ac Ysgol Gymraeg yr Andes yma yn Esquel, reit yng nghanol y dref, a mi ddaeth Clare i gyfarfod fi a mynd a fi am ´tour´o gwmpas y dref. Mae Clare o ardal Wrecsam yn wreiddiol ac wedi bod drosodd yma ers rhyw 4 mlynedd bellach yn dysgu ac yn cydlunio´r cynllun Cymraeg.

Ges i weld y llefydd pwysig, y londrét (sydd ddim yn golchi dillad isa am rhyw reswm, mi fyd raid i mi wneud rheiny efo llaw!!!) La Aonima, ateb yr Ariannin i Tesco a’r dafarn Wyddelig wrth gwrs! Mae Clare yn rhugl yn y Sbaeneg rŵan a dwi´n gwbl genfigennus ac mae RHAID o fi gychwyn dysgu! Dwi´n deud “Lo Siento, na habler Castellano´´ lot gormod!! (sef Mae’n ddrwg gen i dwi ddim yn siarad Sbaeneg). Ond mi ydw i yn gwybod rhai geiriau pwysig ac yn gallu ordro papas fritas (sglodion!).

Felly ar ôl platied o papas fritas, mi aethom drosodd i Trevelin, y pentref Cymraeg rhyw hanner awr o Esquel. Mae’r olygfa rhwng y ddau le’n fendigedig medde nhw….ond wrth gwrs mi oedd hi´n glawio doedd a welais i ddim byd!

Ges i fynd i weld yr Amgueddfa sy’n llawn o hen bethau Cymraeg a lluniau o’r Cymry ddaeth drosodd yma….dan yn anodd credu eu bod wedi gwneud ffasiwn beth a’r amgueddfa yn hynod!! Does na ddim llawer i’w wneud yn Nhrevelin amser siesta, a llai fyth pan mae hi´n glawio! Dim ond un lle nes i ffeindio ar agor, Case de Te (Siop De) felly dyma fi´n mynd mewn i gynhesu a meddwl cael paned a darn o gacen falle….nes i ddim disgwyl be gefais i o gwbl!! Dyma fi´n cael tebot enfawr o de, pump darn o gacen (bara brith, siocled, afal, coconyt a dwi ddim yn cofio’r llall!), brechdan ham a caws, bara menyn, sgon a crempog!! A menyn ac ambell fath o jam fyd!! Gwledd!! Nes i ddim llwyddo i fwyta’r cwbl lot…dwi ddim yn licio coconyt!! Mae na fysus o bobl o bob cwr o’r byd yn dod i Drevelin i’r tai te yma…mae’n rhaid eu bod nhw´n meddwl fod lot o bobl tew yng Nghymru os ydyn nhw´n meddwl ein bod hi´n bwyta hyn bob amser te!! (O leiaf doeddwn i ddim isio llawer o swper nagoedd!).

Mi oedd Clare wedi mynd am wers caiacio yn y pwll nofio yn y cyfamser, a mi nes fynd yno i’w chyfarfod, mi nath rwyn drio dechrau sgwrs efo fi a dyma´r Lo Siento no habler castellano yn dod allan eto….soy Galesa! Nath o ddallt bod fi o Gymru ac wedyn yn gofyn Williams? Evans? Roberts? Jones? Ia….Jones!

Mi nath Clare ddanfon fi at y bws, yr her nesa oedd trio ffeindio’r ffordd nol i’r fflat! Sense of direction ofnadwy gen i, felly mynd oddi ar y bws pan oedd y rhan fwyaf o’r teithwyr eraill yn mynd i ffwrdd gan obeithio bod hyn yn golygu bod fi wrth y canol yn rhywle…ac ar ôl cerdded mewn cylchoedd am chydig, nes i ddod ar draws y fflat…yn gwbl ddamweiniol! Mae trefi fama i gyd mewn blocs ac mae pobman yn edrych run fath!!

Mi oedd rhyw wraig garedig wedi gwneud ychydig o siopa bwyd i mi ac wedi prynu bara a bananas ymysg pethau eraill….mi oedd hi´n deud mai dyma oedd pobl yn fwyta yng Nghymru pan oedd hi wedi ymweld … a neis oedd y fachdan banana fyd!

Dydd Sul Mehefin 13eg
Diwrnod lot brafiach heddiw ac ar ôl brechdan fanana arall i ginio…dyma fi´n mynd am dro o gwmpas y dref i drio dod i nabod y lle…mi oedd y lle’n edrych yn hollol wahanol heb Clare i fynd a fi o gwmpas a doedd na ddim byd yn edrych yn gyfarwydd o gwbl! Gan ei bod hi´n ganol pnawn dydd Sul hefyd, doedd na ddim byd ar agor ond am siop hufen ia! Mi oeddwn i’n prowd iawn o brynu’r hufen ia rhaid fi ddeud…a neis oedd o hefyd..hufen ia taffi efo darnau o meringue…be gei di well!

Mi oedd Cymry Esquel wedi paratoi te croeso i mi yn y Ganolfan, ac ew am de croeso da oedd fyd! Llond bwrdd o fara menyn, brechdanau, caws, tarten afal a bisgedi dulce de leche (mi nai son am dulce de leche eto i’r rhai sydd ddim yn gwybod be ydio…ond mae’n ddrwg IAWN!). Bendigedig! Ges i gyfarfod efo nifer o Gymry’r ardal a llawer ohonynt wedi bod draw yng Nghymru ac yn ardal Rhuthun. Mae dal yn rhyfedd siarad Cymraeg gyda nhw ac mi oedd un wraig oedrannus wedi bod yn lawr lwytho rhaglenni o Eisteddfod yr Urdd i’w gwylio’r diwrnod hwnnw.

Doedd na ddim llawer o’r wledd ar ôl…ond lwcus i mi, ges fynd a beth oedd yn weddill i swper! Da wan, ond mi fydd raid mi fod yn ofalus wir neu mi fydda i’n mynd oma fel ochr tŷ, ac mae Ifan wedi gofyn wrth Gwawr yn barod os mai cwbl dwi´n neud ydi bwyta cacennau!!

Dydd Llun Mehefin 14eg

Gwyl y Banc yma heddiw, Diwrnod y Faner. Diwrnod braf felly mynd am dro arall o gwmpas Esquel i dynnu chydig o luniau. Meddwl y baswn i’n mynd i edrych am orsaf drên y trên stem enwog sonnir amdani yn llyfr The Old Patagonian Express, llwyddo i fynd ar goll rhywsut…ond
ei ffendio´n diwedd! Doedd y trên ddim yno chwaith, mi fydd raid mi ddod nol ar ddydd Sadwrn i weld y trên! Bob man wedi cau achos ei bod hi´n wyl y banc, ond yr orsaf bws ar agored felly i fane am submarino bach, un o’r goreuon dwi wedi gael eto!

Doedd gen i ddim mwy o fwyd yn tŷ rŵan chwaith, (wedi bwyta’r holl fananas) felly mi oedd raid i mi fynd i wneud fy ´shop´archfarchnad gyntaf! Doedd dim raid fi siarad gyda neb diolch byth a nes i ddod oddi yno yn teimlo’n reit falch bod fi wedi llwyddo!

Dydd Mawrth Mehefin 15fed
Y tywydd yn ofnadwy heddiw!! Wedi pistyllio glawio trwy’r dydd heb stop! Es i draw i Drevelin i gyfarfod â Jessica sy’n gweithio yn yr ysgol Gymraeg yno a ges i ddim gweld yr olygfa fendigedig o’r andes unwaith eto!
Mae’r ysgol yn yr hen dy capel yn Nhrevelin ac yn ysgol fach groesawus iawn, tebyg iawn i hen ysgolion Cymru ac mi fydda i’n dod yma i wneud gweithgareddau gyda’r plant gobeithio.
Mi oedd yna lifogydd yn rhedeg lawr strydoedd Esquel erbyn i mi gyrraedd nol…ac mi oedd hi´n dal i lawio ac yn oer! Dim byd amdani felly ond mynd i’r caffi neis dros y ffordd am submarino i
gynhesu!

Dydd Mercher Mehefin 16eg
Mi oedd hi wedi stopio glawio erbyn y bore diolch byth a haul ac awyr las unwaith eto! Mi nes i benderfynu mynd i redeg am y tro cyntaf ers dwi allan yma, mewn ymdrech i losgi ´chydig bach o’r holl galorïau dwi wedi bwyta ers dwi yma! Doeddwn i ddim yn siŵr lle i fynd felly dyma fi´n dilyn fy nhrwyn o gwmpas cyrion y dref..nes i mi gyrraedd allt, lle nes i droi nol. Ond mi oedd hi´n bore bendigedig i redeg ac mi oeddwn i’n teimlo’n well ar ôl gwneud.
Mi ddaeth Heledd (oedd yn y Gaiman) drosodd i Esquel yn y pnawn, mi oedd wedi cael antur ar y paith..mi oedd y bws wedi torri lawr ac roedd ar ochr y ffordd am 6 awr!
Mi oeddwn i’n helpu gyda gwersi Clare yn y pnawn gan ei bod hi´n Esquel.
Y grŵp siarad oedd am 5, sef 6 o ferched sy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn cwrdd i drafod a rhoi’r byd yn ei le. Ges i gwrdd â pherthynas Olwen Cricor ac mae’r pecyn wedi ei drosglwyddo!
Aeth Heledd a fi am swper i’r bar Gwyddelig i drio ac mi oedd Heledd yn siŵr ei bod hi´n clywed hogiau wrth fwrdd agos yn siarad Cymraeg a daeth un ohonynt drosodd at y bwrdd a gofyn os mai Cymraeg oeddem ni´n siarad! Pedwar o Gymru oeddynt yn teithio De America, roeddynt wedi bod yn teithio am rhyw 3 mis ac ar eu ffordd adref. Dim ond noson oedd ganddynt i aros yn yr ardal a dyma fi a Heledd yn sgwrsio gyda nhw am weddill y noson…yn sydyn iawn mi oedd hi´n 2 y bore ac yn amser mynd adre!

No comments:

Post a Comment