Sunday 26 July 2009

Dim llawer i'w adrodd dros y ddyddiau dwethaf yma, mae hi'n dal yn oer, ond oer gydag awyr las, felly dydi hi ddim yn ddrwg felly! Fe gefais fwy o ymwelwyr dydd Gwener, John ac Anwen o Aberystwyth. Maen nhw'n teithio o amgylch yr Ariannin am bythefnos felly mae amser yn brin ganddynt! Bob amser yn braf cael Cymry yn ymweld. Maen nhw'n aros yn La Chacra a dwi'n mynd yno heno am swper gyda nhw, maen nhw'n mynd drosodd i'r Gaiman heno a dwi'n mynd yr un adeg a nhw (ac ar yr un bws gobeithio!!). Dwi'n edrych ymlaen i fynd i'r Gaiman, mae hi'n Wyl y Glaniad dydd Mawrth, sef dathlu glaniad y Mimosa ym Mhatagonia yn 1865. Mae gwahanol weithgareddau yn digwydd dros Batagoniad ar Gorffennaf 28 a dwi'n gobeithio mynd i Borth Madryn, lle glaniodd y llong, lle mae'n nhw'n ailactio'r glaniad! Yn anffodus, dwi'n meddwl fod Eisteddfod Madryn wedi ei gohirio achos y ffliw moch. Dwi hefyd yn gobeithio mynd i Benrhyn Valdes tra dwi yno i weld y morfilod a'r bywyd gwyllt arall draw yno, wedi prynu cerdyn newydd i'r camera felly lle i dros fil o luniau!! Mae hi hefyd yn wythnos olaf Catrin yn y Gaiman cyn iddi ddychwelyd i Gymru ar ol blwyddyn yno'n dysgu, mae'n mynd i fod yn amser trist iawn iddi! Dim llawer mwy i'w adrodd dwi ddim yn meddwl ac mi fyddai'n diweddaru'r blog ddiwedd yr wythnos mae'n siwr felly chau chau am rwan!
ON Llongyfarchiadau i Llanfair DC am enill tarian y Summer League ac i Edwart am chwarae mor dda (medde nhw!)!!

Thursday 23 July 2009

Mae hi wedi bod yn oer iawn dyddiau dwetha 'ma, yn enwedig dros nos....a maen rhaid ei bod hi'n oer iawn neithiwr achos doedd dim dwr pan sefais yn y gawod bore ma! Peips wedi rhewi dros nos!! Galwyd y plymar, dim gen i mae'n amlwg, ac fe ddatryswyd y broblem heb ormod o drafferth! Galwodd ymwelydd arall o Gymru heibio'r Ganolfan pnawn ma, hogyn o Amlwch sydd ar ddiwedd taith 6 mis o gwmpas De America ac roedd yn neis iawn clywed am ei anturiaethau o gwmpas De America. Dwi'n meddwl bydda i'n mynd i'r Gaiman ar y penwythnos i edrych am chydig o gynhesrwydd!! Mae hi'n Wyl y Glaniad ddydd Mawrth nesaf a dwi'n gobeithio ymuno yn y dathliadau.

Tuesday 21 July 2009

Dydd Mawrth Gorffennaf 22ain
Eira eira eira y bore yma!! Mi nath fwrw eira heddiw am oriau..ond mae'n rhaid ei fod yn eira gwlyb achos nath ddim sticio o gwmpas am hir! Ond doedd hi ddim yn dywydd mynd i nunlle heddiw..felly dyma'r llyfrau Sbaeneg yn dod allan unwaith eto! Mae'n dod yn ei flaen dwi'n siwr...dim ond eisiau hyder rwan i'w ymarfer!
Daeth dau hogyn o Brifysgol Utah yn America draw i'r Ganolfan heno. Roedd un ohonynt, Bentley Snow, wedi cael ysgoloriaeth o'r coleg i wneud rhaglen ddogfen ar y Diwylliant Cymreig ym Mhatagonia. Mae'n anodd credu fod gan brifysgolion America gymaint o ddiddordeb yn y math yma o beth! Roedd Bentley yn cyfweld gwahanol bobl am beth oedd Cymru yn olygu iddyn nhw, ac roedd wedi cael agoriad llygad gyda'r holl deimlad oedd tuag at Cymru a'r iaith Gymraeg! Roedd ganddo ddisgynyddion Cymreig ac roedd am fynd i ddarganfod mwyn amdanynt ar ol iddo fynd adre ac roedd ef ei hun yn dangos diddordeb dysgu Cymraeg hefyd! Anhygoel...piti na fyddai rhai pobl yng Nghymru mor frwdfrydig!!

Monday 20 July 2009

Diwrnod y Ffrind hapus i bawb!

Dydd Llun 20fed Gorffennaf

Codi'n gynnar y bore yma (cynnar i fi beth bynnag, does na ddim llawer o alw i fi godi cyn cinio dyddia yma!). Fe gyrhaeddais y deintydd am 10:30.....roedd hi bron yn 2 erbyn i mi adael!!!! Doedd ddim y tair awr a hanner mwyaf pleserus o fy mywyd o bell ffordd..mae mynd at y deintydd yma'n brofiad gwahanol iawn yn yr Ariannin, ond tair awr a hanner yn ddiweddarach, un triniaeth root canal yn ddiweddarach ac mae wedi ei sortio am byth gobeithio!! Diolch i Joyce unwaith eto am fod mor anymeddgar efo fi!!
Mae hi'n Ddiwrnod y Ffrind yma yn yr Ariannin heddiw ac fe ges ymwelydd gyda bocs o siocledi! Un o berthnasau Anti Olwen Cricor, sef Shirley Freeman, maen nhw mor garedig yma ac mae hi wedi fy ngwahodd i fynd draw i'w chartref yr wythnos yma rywbryd.
Treluiais weddill y noson gyda fy llyfrau Sbaeneg.....

Sunday 19 July 2009

Dydd Sul 19eg Mehefin
Gwynt gwynt gwynt trwy'r dydd ddoe a glaw glaw glaw trwy'r dydd heddiw! Felly dim llawer i'w wneud penwythnos yma....ond canolbwyntio ar fy Sbaeneg wrth gwrs. Mi oeddwn i'n dysgu Sbaeneg drwy wylio un o fy holl filmiau erioed neithiwr, Gladiator...neu Gladiador yn Sbaeneg ac mi oeddwn i wrth fy modd gyda'r frawddeg anfarwol...Me llamo Maximus Decimus Meridius...!! Cefais wahoddiad i swper i lle Jeremy Wood a'i wraig heno am swper (ia bwyta eto Ifan!! Mae Ifan yn dweud mai cwbl dwi'n neud ydi bwyta yma!!) ac mi oedd yn bryd bendigedig, cyri cyw iar ac ysbigoglys (neis cael chydig o sbeis!) a crymbl afal a chwstard...just fel bod adre!! Mae Jeremy wedi bod yn cynhyrchu dvd ar Esquel ac am imi wneud y 'voiceover' yn Gymraeg felly mi fydd hyn yn brosiect arall i mi. Mae Jeremy a'i wraig hefyd yn ffrindiau efo Mathew Rhys ar ol ei holl dripiau yma, dwi'n jealous iawn!! Mae'n ffrindiau mawr efo Rhys Meirion hefyd. Mae rhywun o'r enw Bentley Snow yn dod yma fory i ffilmio hefyd! Gwneud prosiect ar Gymry Patagonia, dwi'n meddwl mai Americanwr ydi, cewn weld!
Noson dda o gwsg i fi heno gobeithio...dwi'n dychwelyd at y deintydd fory ar ol y trawma 'rol cyrraedd...gobeithio na fydd hi'n rhy frwnt! Anodd credu fod chwech wythnos wedi mynd heibio ers i mi adael Cymru!

Friday 17 July 2009

Dydd Gwener 17eg Gorffennaf 2009

Diwrnod digon distaw heddiw, braf ac yn gynnes ond dim llawer o awydd mynd i nunlle am dro heddiw, felly, gan fy mod wedi bod yn anwybyddu fy sgiliau Sbaeneg yn ddiweddar, dyma fi'n nol fy llyfrau ac yn dechrau dysgu unwaith eto...dwi rwan yn gwybod enwau'r teulu yn Sbaeneg, mae Gwawr a Non yn hermanas i fi ac Edwart yn hermano! Abuela ydi Laura May ac mae Ifan, Cai a Caleb yn sobrinos a Lily yn sobrina i fi! Lleucu, Blod a Mel, Gwenno, Mari a Lowri, mi ydych chi'n primas! Dewi a Huw..you guessed it...primos!
Dwi hefyd yn gwrando ar wersi Michel Thomas, ieithydd enwog, medde nhw, ar fy ipod. Mae wedi datblygu ffordd newydd o ddysgu ieithoedd drwy ddangos sut i adeiladu brawddegau...mi gyrhaeddais hoff ran Hywel heddiw a dysgu sut i ddweud ...'que impresion tiene de la situation politica y economica en Mexico ahora?' sef 'beth wyt ti'n feddwl am y sefyllfa wleidyddol ac economaidd yn Mecsico ar hyn o bryd?'!! Dwi ddim yn siwr pryd gai gyfle i ddefnyddio ac impressio pobl efo'r frawddeg hon rhaid fi ddeud...yn enwedig gan bod fi dal ddim yn gallu deud yr amser mewn Sbaeneg yn iawn eto!! Dwi'n hefyd yn gallu dysgu geiriau drwy wylio ffilmiau gydag isdeitlau, yn enwedig geiriau sy'n cael eu hailadrodd o hyd fel Vamos a dios mio!! O wel, estoy casada felly buenos noches!

Thursday 16 July 2009

Sgio, cerdded a 'chydig o waith!

Dydd Sadwrn 4ydd Gorffennaf

Tywydd ofnadwy heddiw, felly dim dewis ond aros i mewn o flaen y teli bocs! Llewod a ffeinal Wimbledon ymlaen, felly digon i fy niddori!

Dydd Sul 5ed Gorffennaf

Rhagor o law felly gwylio ffeinal dynion Wimbledon (aeth ymlaen yn ddigon hir!) a meddwl beth ydw i am wneud am y mis nesaf! Fel y dywedais, mae bron popeth wedi cael ei ohirio ym mis Gorffennaf, felly gwaith paratoi ar gyfer mis Awst fydd hi mae´n siŵr. Ond o leiaf mi fydd gen i gwmni yn y dyddiau nesa fan od Hywel a Catrin yn dod draw o´r Gaiman am dro, yr un yw´r sefyllfa draw fanno felly dod draw i weld be sy´n mynd ymlaen yn fama!

Dydd Llun 6ed Gorffennaf

Diwrnod arall o law di-baid! Glawio trwy´r dydd a gorfod gosod bwcedi mewn llefydd strategol yn y gegin i ddal y dŵr odd yn dod i mewn trwy´r to! Ges i wers Sbaeneg arall yn y prynhawn, ond yn anffodus mae fy athrawes yn mynd i Buenos Aries am fis felly mi fydd raid i mi wneud gwaith astudio fy hunan…dwi´n llawn bwriadu gwneud hyn ar y funud…ond gewn ni weld! Mi gyrhaeddodd Hywel a Catrin Esquel tua 10 heno a mynd draw i aros yn Casaverde yn Nhrevelin. Maw Casaverde yn cael ei redeg gan Bibi aí theulu ac mae hi wedi dysgu Cymraeg er nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau Cymreig.

Dydd Mawrth 7fed Gorffennaf

Ges i neges gan Hywel yn deud eu bod yn bwriadu mynd i La Hoya heddiw i sgïo felly dyma hi´n penderfynu bachu´r cyfle i fynd gyda nhw. Dwi erioed wedi sgïo o´r blaen ond bob amser wedi bod eisiau mynd felly cyfle delfrydol gyda´r Ganolfan ddim ond rhyw 8 milltir o Esquel.
Felly ar ôl bod yn nol ein hoffer sgïo, ffwrdd â Catrin, Hywel a fi, ynghyd â Sara ac Anest o Gaernarfon sy´n teithio o amgylch De America i LA Hoya! Doeddwn i ddim yn siŵr beth i´w ddisgwyl ac mi oedd y daith ar y lifft i gyrraedd y mynydd yn ddigon ofnus ynddo´i hunan! Sara gafodd y job anffodus o helpu fi ddysgu sgïo ac roedd hi´n athrawes amyneddgar a da iawn ar ôl iddi ddangos y pethau pwysig imi, fel sut i stopio (!) mi oeddwn i´n ddigon hapus i fynd fy hun, a ffwrdd â hi, Hywel ac Anest i ben y mynydd i edrych am ´runs´ mwy heriol. Mi oedd Catrin a fi´n ddigon hapus i aros ar y bryn ´nursery´ am y tro ynghanol y plant bychan, oedd yn gwibio i lawr heibio ni! Y darn anoddaf oedd cydio yn y rhaff oedd yn ein cludo nôl i fyny´r bryn, ac mae gen i glais mawr ar fy mraich am fy ymdrechion. Mae´n amlwg nad oedd fy nhechneg i´n iawn! Fe gawsom brynhawn pleserus iawn ac roeddwn i wedi mwynhau mas draw ac yn gobeithio cael dod yma eto! Ac ar ôl submarino yr un i orffen y prynhawn, nol a ni lawr i Esquel yn y tacsi, gan weld rhai golygfeydd anhygoel ar y ffordd i lawr.

Es i Drevelin y noson honno i ymuno gyda´r criw, a des yn ôl i Esquel ar y bws olaf ar ôl cael swper ac wedi blino´r lân. Mi gysgais i´n dda iawn y noson honno! Lot gwell na Catrin, Hywel, Sara ac Annest! Ond stori arall yw honno!

Dydd Mercher 8fed Gorffennaf

Deffrois y bore yma gyda chyhyrau dolurus iawn! Mi oedd gen i fy nosbarth siarad am 2 ac roedd 2 o´r dosbarth wedi mentro i´r wers. Daeth Catrin a Hywel i ymuno gyda´r dosbarth ac fe gawsom awr hwylus iawn. Aethom am baned wedyn i Maria Castana ac yna aeth Catrin i finnau i weld gorsaf drên La Trochita, ond doedd y trên ddim yno wrth gwrs. Un o´r dyddiau yma, mi wela i´r hen drên stem!

Roedd yna e-bost yn fy nisgwyl pan gyrhaeddais yn ôl yn fy ngwahodd i gyfarfod grŵp gefeillio Aberystwyth ac Esquel. Dwi´n meddwl mai'r llynedd wnaethon nhw efeillio ac roeddynt yn awyddus imi fynd draw i gyfarfod pawb. Felly ffwrdd a fi, Hywel a Catrin draw i'r Ganolfan Dwristiaeth i'r pwyllgor, yn anffodus, doeddwn i ddim wedi gallu deall dim bron o'r cyfarfod gan ei fod yn sbaeneg, ond o leiaf roeddwn i wedi cyfarfod pobl wahanol, a dwi'n gobeithio gallu eu cynorthwo dros y misoedd nesa. Aeth Catrin, Hywel a fi dros y ffordd i Killarney's am Quilmers bach cyn mynd ymlaen i La Luna am swper.

Dydd Iau Gorffennaf 10fed

Mae trip o bobl ifanc Gogledd Cymru sy'n cael ei drefnu ar y cyd rhwng yr Urdd a Menter Patagonia yn dod i Batagoniaym mis Hydref ac mae gan Hywel a finnau lawer o waith paratoi ar ei gyfer. Yn ddigon ffodus, roedd Hywel draw gyda chriw y llynedd ac yn gwybod pa weithgareddau oedd y bobl ifanc wedi fwynhau. Aethom ati i lunio amserlen ar eu cyfer. Mae cymaint i'w weld am amser yn brin.
Penderfynasom fynd am 'treat' bach ar ol yr gwaith caled a mynd i Maria Castana am waffle yr un cyn i Catrin a Hywel adael ar y bws nos y noson honno.

Dydd S
ul Gorffennaf 13eg
Mi oed
d hi'n ddiwrnod braf iawn heddiw felly penderfynais fynd i ddarganfod mwy o Esquel ac fe gerddais i Laguna la Zeta, llyn sydd rhyw 5k o Esquel. Mae'r llyn i fyny ffordd droellog serth, ac mi oedd cyfradd curiad y galon yn codi wrth gerdded i fyny'r llwybr! Roedd y llyn yn le tawel, hardd iawn a fi oedd yr unig un o gwmpas. Roedd yr olygfa yn edrych i lawr ar Esquel o ben y bryn yn un arbennig iawn ac mae'r dref yn edrych yn llawer mwy o uchder!!


Dydd Mawrth Gorffennaf 15fed
Diwrnod braf braf iawn arall heddiw, felly es am dro arall. Ar hyn y tracs tren i gyfeiriad La Hoya y tro ma. Des ar draws lle
o'r enw La Cascada (rhaeadr ydi cascada..ond nes i ddim gweld rhaeadr chwaith!) ac mi oedd yn le neis iawn i fynd am dro, gyda'r awyr yn las a'r haul yn adlewyrchu ar y dwr. Nes i basio arwydd Esquel ac Aberystwyth (maen nhw wedi gefeillio'r llynedd), y cae peldroed a'r pwllnofio...oedd yn hollol wag wrth gwrs oherwydd ei fod ar gau oherwydd y ffliw! Mae yna ddelw dyn eira anferth ar y ffordd wrth ddod i mewn i Esquel hefyd...dydi dyn eira just ddim yn iawn ym mis Gorffennaf!!
Es allan am bizza y noson honno gyda dwy eneth o Goleg Llanymddyfri sydd drosodd ym Mhatagonia am fis. Maen nhw'n aros gyda theulu yn y Gaiman ac wedi dod draw i Esquel i sgio. Mae hi'n dechrau prysuro yma rwan hefyd, gyda thwristiaid yn ymddangos. Roedd na Almaenwyr yn La Anomina heddiw fyd!

Dydd Mercher Gorffennaf 16eg
Roedd hi'n amser y dosbarth siarad unwaith eto, a daeth y ddau aelod ffyddlon unwaith eto! Fe gawsom siarad am bob math o bethau a wedyn fe dreuliais y prynhawn yn gweud man bethau fel mynd i'r londret...mae'r Sbaeneg yn dal yn anobeithiol ond o leiaf mae'n gwella chydig bach a dwi'n gallu rhywfath o ddeud be dwi isio! Cefais wahoddiad i dy Gladys am swper a blasus iawn oedd hefyd! Dwi wrthi'n trio ysgrifennu Llais yr Andes ac roeddwn eisiau mynd i drafod syniadau gyda Gladys. Roedd yna gem beldroed bwysig iawn yn digwydd heno, rownd derfynol clybiau De America, equivalent i'r Champions League Ewrop. Mae'n siwr eich bod yn gwybod eu bod wrth eu boddau gyda pheldroed yma...ac mi nath dim o'r ARiannin, Estudiantes de la Plata guro tim o Frasil, felly roedd llawenydd mawr yma!! Roedd cyrn y ceir yn bibian tan y bore felly ni chefais lawer o gwsg!!

Monday 6 July 2009

Chilly yn Chile a Ffliw´r Moch

Dydd Gwener 26ain Mehefin
Tecstiodd Clare neithiwr yn holi os hoffwn i fynd am dro gyda hi a Victor i Chile heddiw, doeddwn i erioed wedi bod yn Chile o'r blaen, felly pam lai oedd medde fi! Mi oeddem ni'n cael tacsi o Drevelin felly roedd rhaid i mi ddal y bws 7:50 o Esquel ac mae hi'n dywyll fel bol buwch adeg hynny ac yn anodd codi! Mi oedd hi'n fore oer oer iawn hefyd, ond yn sych...hyd nes cyrraedd Trevelin, lle'r oedd hi'n gwbl wyn ac yn bwrw eira! Mae'r tywydd yn rhyfedd iawn yma!
Roeddem ni'n mynd i Futelefu, tref yn Chili sydd ochr arall i'r ffin ac mae rhyw 30 milltir i ffwrdd a dydi hi ddim y ffordd orau o bell ffordd! Dyma ni'n cyrraedd 'border control' ochr yr Ariannin, sy'n cael ei redeg gan y fyddin, a chwbl alla i feddwl ydi bod milwyr yn cael eu gyrru yma i weithio fel cosb!! Mae mewn lle mor anghysbell, wir yng nghanol unlle a fedra i ddim meddwl fod llawer o bobl yn pasio heibio, yn enwedig yn y gaeaf. Mi wnaethon nhw gymryd digon o amser yn mynd trwy ein dogfennau beth bynnag. Ond cawsom ein gadael allan ac yn ein blaenau drwy dir neb nes cyraedd 'border control' Chile, lle'r oedd y swyddogion yn ein disgwyl yn gwisgo masgiau, mae'n rhaid bod golwg sâl arnom ni!
Roedd y gwahaniaeth rhwng Chile a'r Ariannin i'w weld bron ar unwaith...ac nid yn unig oherwydd yr ieir oedd yn cerdded tu allan i'r swyddfa! Roedd Chile yn teimlo'n hollol wahanol a ninnau prin dros y ffin. Cawsom fynediad i'r wlad – stamp arall i'r casgliad – ac ymlaen a ni i'r dref. Mae Futelefu yn dref brysur yn yr haf gyda thwristiaid yn dod i fwynhau'r awyr agored...ond ar ddiwrnod dychrynllyd o oer yng nghanol y gaeaf, roedd hi fel y bedd! Mi oedd yr eira wedi peidio ond roedd hi'n rhewllyd rhewllyd ac roeddwn i'n falch fy mod wedi gwisgo fy thermals o dan fy nillad, yn ogystal â dwy got, menig sgïo, het wlân a sgarff...ac mi oeddwn i'n dal yn oer!
Mi oedd Clare yn dweud fod y golygfeydd o'r mynyddoedd o gwmpas y dref yn anhygoel..ond doedd dim posib gweld dim oherwydd y niwl!
Aethom i mewn i siop i brynu siocled (rhatach yma na'r Ariannin!) ac roedd y siop yn fy atgof o'r siop yn Open All Hours! Penderfynasom fynd i gaffi i gynhesu..ond dwi'n meddwl ei bod hi'n gynhesach tu allan! Does 'na ddim nwy yn Futelafu ond mi ges baned dda iawn rhaid fi ddeud!
Mi oedd hi'n amser dychwelyd i'r Ariannin erbyn hyn a gorfod mynd trwy'r un rigmarol o groesi'r ffin!
Es i dy Clare a Victor am ginio cyn dychwelyd i Esquel ganol pnawn, roedd gen i waith i'w wneud! Roeddwn i'n cymryd fy nosbarth plant cyntaf ar fy mhen fy hun ac yn teimlo braidd yn nerfus! Doeddwn i ddim yn siŵr sut oedd y plant yn mynd i fy neall i...ond doedd dim rhaid poeni, doedd dim problem a chyda digon o ystumiau roedd pawb wedi mwynhau, dwi'n gobeithio!
Roedd cebl y teledu wedi ei ailgysylltu hefyd, ac felly gefais noson o fynd trwy'r sianeli gyda rhai ffilmiau'n cael eu 'dubbio' ac eraill gydag isdeitlau. Roeddwn i'n falch o weld ESPN hefyd, oedd yn golygu fy mod i'n gallu gwylio'r rygbi! Hwre!!





Dydd Sadwrn 27 Mehefin
Codi'n gynnar heddiw felly i wylio'r Llewod v De Affrica ac ew am gêm dda, piti am y canlyniad! O'Gara!! Does 'na ddim llawer o ddiddordeb gan bobl yma am y rygbi deud gwir, pêl-droed ydi popeth. Wimbledon oedd hi wedyn am y prynhawn a gweld ei bod hi'n boeth iawn adre...dwi ddim yn methu gorfod gwisgo fy iwnifform gwaith yn y tywydd poeth rhaid fi ddeud!




Dydd Sul 28 Mehefin
Es draw i Drevelin pnawn yma eto i gael cinio gyda Clare a'r teulu. Cefais brynhawn diddorol iawn gyda Clare, Victor a phlant Victor, Roedden nhw yn ymarfer eu Saesneg gyda fi a finnau'n ceisio ymarfer fy Sbaeneg drwg gyda nhw. Mae 'amser teulu' yn bwysig yma ac fe chwaraeasom 'rummy' trwy'r pnawn cyn i Clare ddangos ei doniau coginio a gwneud cacenni cri, neis iawn!
Roedd hi'n ddiwrnod etholiadau heddiw ac mae diwrnod pleidleisio yn wahanol iawn i adre! Erbyn i mi gyrraedd nôl i Esquel, roedd tyrfa wedi ymgasglu ar y stryd efo baneri a drymiau yn mynegi eu teimladau am y llywodraeth....gwahanol iawn i bleidleisio yng Nghapel Pentrecelyn!




Dydd Llun 29 Mehefin
Mi oeddwn i'n cychwyn fy ngwaith o ddifrif heddiw ac roedd gen i ddosbarth Wlpan yn Nhrevelin am 9 y bore, oedd yn golygu dal y bws 7:50 o Esquel. Un o'r pethau mwyaf dwi'n gofod dod i arfer gydag ef ydi diffyg car a gorfod dibynnu ar y bysys sy'n troi fyny pan fyddan nhw'n ffansio! Mae aros dros hanner awr am fws peth cynta'n y bore a hithau'n dywyll ac yn oer yn 'frustrating' iawn, ond dyne ni! Bydd rhaid fi ddod i arfer.
Laura sy'n dysgu Wlpan 1. Mae hi'n byw yn Nhrevelin ac wedi dysgu Cymraeg er nad oes ganddi gysylltiadau Cymreig. Roedd hi wedi treulio cyfnod yn Llangrannog ddechrau'r flwyddyn yn gwirfoddoli ac wedi cael amser wrth ei bodd ac mae ei Chymraeg yn ardderchog! Y peth oedd yn ei phoeni oedd ei bod hi'n siarad Cymraeg y de a finnau'n dod o'r Gogledd! Maen nhw'n dueddol o siarad Cymraeg gydag acen ogleddol yma hefyd sy'n ddiddorol iawn ac maen nhw'n hoffi fy acen i'n fawr iawn!
Nol ar y bws yn y prynhawn ac roedd gen i wers Sbaeneg o'r diwedd! Dwi'n cael gwersi gan Liliana sy'n un o fyfyrwyr Wlpan 2 a dwi'n cael gwersi ganddi mewn cyfnewid am gymorth gyda'i Chymraeg, sy'n siwtio fi i'r dim! Does gan Liliana ddim cysylltiad Cymraeg chwaith, dim ond diddordeb mewn ieithoedd, mae hi'n siarad Saesneg, Rwsieg a Ffrangeg, yn ogystal â Sbaeneg, ond Cymraeg ydi'r anoddaf hyd hyn meddai hi!



Dydd Mawrth 30 Mehefin
Diwrnod i ddal fyny gyda gwaith papur heddiw! Sgwennu ambell erthygl i wefan MenterPatagonia ac erthygl i'r Bedol a chyfieithu bwydlenni'r dafarn Wyddelig i Gymraeg!


Dydd Mercher 1 Gorffennaf
I Drevelin ar y bws unwaith eto i Wlpan 1 efo Laura a chyfarfod bychan wedyn a darganfod fod y llywodraeth yn bwriadu cau'r ysgolion yn gynnar ynghyd a chanslo gweithgareddau a chau adeiladau am y mis nesaf mewn ymgais i ddelio gyda'r ffliw moch!! Mae nifer fawr yn dioddef o'r ffliw yma ac mae'r llywodraeth wedi panicio braidd ac felly bydd ysgolion, sinemâu, pyllau nofio, canolfannau hamdden ac ati ar gau am fis!! Mae llawer o bobl yn cerdded o gwmpas Esquel efo masgiau a menig rwber ar eu dwylo. Ma si bydd y llywodraeth yn cyhoeddi 'State of Emergency' dros y penwythnos, gewn ni weld! Dydi teithio byth yn ddiflas nad ydi!!
Roedd gennyf fy Nghlwb Siarad cyntaf y pnawn yma, sef clwb i'r dysgwyr sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg ac fe gefais brynhawn diddorol yn siarad am yr Ariannin a Chymru.


Dydd Iau 2 Gorffennaf
Es drosodd i Drevelin ar y bws eto'r bore yma (mae'n siŵr eich bod yn dechrau gweld patrwm! Mynd i Drevelin ar y bws....dod adref o Drevelin ar y bws!) i gyfarfod Clare a mynd i gyfarfod rhai o'r bobl sy'n gweithio o fewn twristiaeth a diwylliant yn y pentref. Yr un neges oedd gan bawb, popeth wedi ei ohirio am fis felly dim byd yn mynd ymlaen felly dyne ni! O leiaf bydd gennyf ddigon o amser i baratoi ar gyfer mis Awst!

Dydd Gwener 3 Gorffennaf

Ges i ddosbarth plant eto pnawn yma, ac mi oedd y plant wedi blino´n arw heddiw! Ond fe gawsom hwyl yn dysgu enwau pynciau´r ysgol yn Gymraeg.
Mae Clare yn mynd i Gymru am fis felly roedd hi'n cael noson ffarwelio yn y lle pizza yn Esquel. Roeddem ni'n cyfarfod am 9:30...mae'n anodd dod i arfer bwyta mor hwyr â finnau wedi arfer cael swper am 6! Ond roedd criw ohonom ni yno....ynghyd a llawer iawn o bobl ifanc..dathlu bod yr ysgol ar gau yn fuan dwi'n meddwl! Fe gawsom fwyd da iawn, ond roedd hi'n amser mynd pan ddaeth y peiriant carioci i fyw a'r plant yn canu Chuiquitita mewn Sbaeneg!