Saturday 15 August 2009

prysur prysur.....

Dwi wedi bod yn eithaf prysur dyddiau dwethaf ma rhaid deud!
Ges i glwb siarad da bnawn Mercher gya mwy yn y dosbarth gan fod pobl wedi dychwelyd o´u gwyliau

Dydd Iau fe es gyda Diana, un o´r tiwtoriaid Cymraeg i´r ysgol gynradd lle mae hi´n dysgu yn Esquel. Mae´r ysgol yn un i blant o gefndiroedd llai breintiedig dwi´n meddwl ydi´r term pc! Maer´ysgol ar ochr y bryn yn un o ardaloedd tlotaf y dref. Mae Diane wedi bod yn rhoi awr o Gymraeg yr wythnos iddyn nhw. Does gan ddim ohonyn nhw unrhyw gefndir Cymraeg ond maen nhw´n mwynhau y gwersi. Roedd Diana wedi bod yn son amdanaf ac roedd cyffro mawr y dydd Iau hwnnw! ´Maestro Gales! Maestro Gales!´oeddwn i´n clywed y plant yn gweddi! Dwi erioed wedi creu cymaint o exitment o´r blaen! Roedd y dosbarth yma, plant 8/9 oed yn ddosbarth bywiog iawn i ddweud y lleiaf..ac roeddwn i´n gallu dweud o´r cychwyn pa rai oedd y cymeriadau lliwgar! Roedd y plant yn gweld i fwynhau y cardiau fflach oedd gan Diane ac mi ddywedon nhw wrth Diane eu bod yn licio fi hefyd…yn enwedi Lourdes oedd yn chwarae efo fy ngwallt i! Dwi ddim wedi arfer efo pethau fel yna!! Dwi ddim yn awdurdod ar ysgolion cynradd yng Nghymru o gwbl ond roedd yr ysgol hon yn wahanol iawn i beth ydw i´n gofio o´r ysgol yng Nghymru. Mae Diana wedi bod mewn ysgolion yng Nghymru ac roedd hi wrth ei bodd gydag ysgolion Cymru. Ond roedd y plant yn andros o hoffus. Gwahaniaeth mawr arall ydi fod pobl yr Ariannin yn tactile (cyffyrddog?!) iawn ac mae pawb yn rhoi sws i bawb pan mae´n nhw´n cwrdd, plant i oedolion hyd yn oed. Fel dwi wedi dweud, mae hyn yn rywbeth anodd iawn i mi ddod i arfer ag o…ac mae unrhyw un sy´n nabod fi´n gallu gwerthfawrogi hyn!!

Mi nes fynd i´r un ysgol eto ond i ddosbarth gwahanol y tro yma ac roedd y dosbarth yma´n hollol wahanol! Dosbarth tawel tawel iawn a doedd neb o´r dosbarth yma eisiau chwarae gyda fy ngwallt i! Roedd yna wasanaeth arbennig ar ddiwedd y pnawn yn yr ysgol gan fod yna ´ddiwrnod ffair´dydd Llun sef diwrnod fel diwrnod y banc ni. Roedd y faner yn cael ei chario i´r neuadd ac roedd yr anthem genedlasethol yn cael ei chanu. Mae´n rhaid i fi drio dysgu´r anthem hefyd neu o leiaf brintio´r geiriau a´u cario gyda fi…mae´n embarasin iawn a dwi ddim yn licio ymddangos fel John Redwood! Diwrnod i ddathlu San Martin ydi hi dydd Llun, dyn enwog iawn yn Ne America…dwi´n gwybod pam..ond dwi ddim yn cofio´n union pam! Felly mi fydd gen i ddiwrnod i ffwrdd dydd Llun! Dwi ddim yn meddwl fod pobl ifanc yn fama yn gwenud yr un fath a phobl ifanc yng Nghymru ar dydd Sul y banc chwaith!!
Roedd gen i´r dosbarth plant yn y prynhawn wedyn gyda´r ffyddlon Segundo (sydd heb fethu´r un dosbarth!) a Ryan. Mae´n nhw´n blant da iawn chwarae teg!
Nes i wylio 0 ond 1 ar y we nos wener! Mi oeddwn i´n gobeithio na faswn i´n gallu ei wylio yma o gwbl…ond yn anffodus na..mi fydda i´n gallu gweld y rhaglen nes i ffilmio nol ym mis Mai…argh!



Heddiw (dydd Sadwrn), roeddwn i´n cychwyn clwb plant yn Nhrevelin ac Esquel. Roedd y clwb yn cychwyn am 11 y bore yn Nhrevelin…ond oherwydd amseroedd bws ar ddydd Sadwrn, mae´n golygu cymryd y bws 9 o´r gloch…felly sefyll yn y tywyllwch a´r eira oeddwn i bore yma! Ond roedd hi´n haul baf erbyn cyrraedd Trevelin….dwi ddim yn gallu dod i arfer efo´r tywydd yma o gwbl!! Nes i benderfynu gwneud cacennau cri efo nhw´r bore yma…pam, does gen i ddim syniad, achos dwi ddim yn gwybod sut i wneud cacennau cri…ond mi oedd gen i flawd, siwgr, wyau, menyn a chydig o gyrents ac i mewn a phopeth a´u cymysgu! Ac ew mi oeddynt yn llwyddiant ysgudol rhaid fi ddeud, beginners luck mae´n rhaid! Roedd rhyw saith ohonom yno…mwy o oedolion na phlant…ond dyne ni! Mi gawsom ni gem fach o bel droed wedyn…y bel rygbi yn fflat (hmmmm)…ac mi gefais siawns i ddangos fy sgiliau pel-droed i´r Archentwyr….neu beidio!!!


Es i dy Alwen Green am ginio a phryd gwerth chweil oedd o hefyd! Cyw iar, stwffin, tatws stwnsh a grefi! Iym iym, mi oedd Alwen wedi gwneud stwffin yn sbesial i fi..dydyn nhw ddim yn licio fo rhyw lawer yma, felly fe gefais i´r cwbl lot bron! Crymbl afal wedyn i bwdin, iym iym eto! Fe gefais fy nanfon yn ôl i Esquel gan Alwen ac Aldo erbyn 3 gan fod y clwb plant yn cychwyn yn fano am 3…a dim ond Segundo ddaeth y tro yma! Welsh cakes oedd hi unwaith eto…rhai heb y cyrents tro yma gan nad ydi Segundo yn licio cyrents Mi gafodd ddigon o hwyl dwi´n meddwl…ond gobeithio bydd mwy o´í ffrindiau yn dod yr wythnos nesa fel bod y cradur ddim yn gorfod gwario awr a hanner gyfan efo fi yn sgwrsio hanner Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg pan ydyn ni´n hollol styc! Doedd y cacennau ddim cweit mor llwyddianus tro ´ma chwaith..ond mi nath ei fam ddod ataf yn ymarfer cor i ddeud eu bod wedi eu mwynhau yn fawr iawn...bod yn neis oedd hi dwi´n meddwl!! Mi gafodd Sali Mali a Jac y Jwc lond bol beth bynag!





Mae´r tywydd wedi bod yn newidiol iawn yma yn Esquel heddiw a dweud y lleiaf! O eira i law i ysbaid fach heulog i wynt, mwy o eira ac wedyn chydig o law i orffen y dydd…..

Tuesday 11 August 2009

Eisteddfota....

Wps, wedi bod yn anwybyddu fy mlog yn ddiweddar!
Wel, nes i wylio lot o steddfod ar y we, nes i ddim codi am 6 i wylio Gwawr yn fyw chwaith ond mi nes eu gweld nhw ar wefan y BBC gan eu bod wedi cael 3ydd ynde, ag allan o 13 fel mae Gwawr yn deud! Da clywed fod mam wedi bod ym mhabell Cymry Ariannin hefyd ac yn cyfarfod pobl Patagonia...dwi ddim wedi eu cyfarfod eto hyd yn oed!! Mi oedd na siom yma nad oedd neb wedi enill y gadair hefyd!

Mi ges i benwythnos tawel neis arall os dwi'n cofio'n iawn! Gwylio rygbi a steddfod bore dydd sadwrn ac wedyn mi nes i benderfynu mynd i edrych am chydig o chwaraeon yn Esquel yn y pnawn. Meddwl oeddwn i mae'n siwr fod na rygbi neu beldroed yn rhywle, felly yn amlwg nes i fynd i'r stadiwn pel-droed, ond neb yn chwarae yn fanno, mi oedd na gem tu ol i'r stadiwm....ond dim yn gem bwysig iawn dwi ddim yn meddwl....mi oedd y golgeidwad yn gwisgo jins! Mwy summer league na'r premiership dwi'n meddwl! Mi nes i gerdded ychydig pellach a dod ar draws gem bel-droed arall ond doedd na ddim llawer o fynd yn fano 'chwaith...felly dim llawer o lwc. Dwi'n gobeithio ffeindio rhywbeth gwell erbyn penwythnos yma! Practis cor oedd highlight y diwrnod...dwi'n mwynhau er nad oes gen i syniad be sy'n cael ei ddweud, ond o leiaf mae'r canu yn Gymraeg!

Mi oedd hi'n ddiwrnod bendigedig dydd Sul...er, mi nes dreulio'r bore yn gwylio'r pel-droed, Chelsea yn erbyn Man Utd yn y Charity shield. Mae gen i ESPN yn y fflat, mae'n briliant! Mae'n amlwg fod y sylwebaeth yn Sbaeneg a dwi wrth fy modd yn gwrando arnynt er nad ydw i'n gallu eu deall! Maen nhw mor mor frwdfrydig a phan mae na gol yn cael ei sgorio....GOOOOOOOAAAAALLLLLLLL GOOOOOOOOOOOOOOOOOOOALLLLLLLLLLL GGOOOOOOOAAAAAAAAOOOOOOOOAAAAAAALLLLLLL!! !!!! Mae'n nhw'n exitio gymaint fedra i ddim credu!

Beth bynnag, y tim gorau enillodd yn diwedd de felly dyma fi'n mynd am chydig o awyr iach yn y pnawn i Laguna de la Zeta. Mae wedi ei galw yn llyn 'zeta' achos y ffordd siap Z sydd yna i gyrraedd y llyn. Dwi ddim yn deall y tywydd yma o gwbl! Mae hi'n ganol gaeaf i fod a heddiw mi oeddwn i'n cerdded o gwmpas mewn crys t! Awyr las, run cwmwl a haul mawr melyn yn yr awyr!
Mi ges decst gan Jeremy Wood yn gofyn faswn i'n ei helpu gyda gwaith cyfeithu nos Sul, felly dyna be fues i'n ei wneud am dipyn...practis ar gyfer pan fydda i'n dod adre! Hen ffilm o'r Wladfa oedd y gwaith oedd wedi ei ffilmio rhyw 50 mlynedd yn ol, ac wedi ei darganfod yn ddiweddar...maen nhw'n gwneud gwaith ar y ffilm ac am ei dangos yn y 'steddfod yn Chubut mis Hydref. Mae'r ffilm yn hollol fascinating (fedra i ddim meddwl am y gair Cymraeg) ac anghygoel a dwi'n edrych mlaen i weld wynebau'r bobl wrth weld y ffilm!

Dydi'r tywydd ddim wedi bod yn rhyw dda iawn ddoe a heddiw....mi nath lawio TRWY'R dydd ddoe ac mi oedd y dwr yn dod i mewn trwy'r to yn y gegin eto neithiwr. Dwi ddim yn mwynhau aros am fws am 7:45 y bore yn y tywyllach a hithau'n bwrw glaw ac yn oer a'r bws chwarter awr yn hwyr beth bynnag. Dwi'n methu'r mini ar adegau! Dim llawer gwell heddiw felly ddim wedi bod yn gwneud llawer o ddim ond gwaith o flaen y cyfrifiadur. Noson gynnar heno, early start eto fory, Trevelin i helpu Laura gyda'i gwers Wlpan yn bore, clwb siarad yn pnawn a dosbarth meithrin am 6!

Wednesday 5 August 2009

Mae dad wedi bod yn holi os dwi wedi bod ar ffarm yma eto a dwi'n gallu deud 'do, dwi wedi bod ar ffarm' rwan! Fe gefais wahoddiad, wel nes i sort of gwahodd fy hun, i fferm y Greens yn Trevelin ddoe, sef Greenland. Maen nhw'n deulu Cymreig amlwg iawn yn yr ardal ac yn bobl glen glen iawn! Daeth Charlie i fy nol ol stop bws ac es yno erbyn amser cinio, wrth gwrth, a chael pryd blasus iawn, cig cartref wrth gwrs! Mae'r ffermdy mewn lleoliad prydferth iawn wedi ei hamgylchynu gan fynyddoedd mawr yr Andes, gyda Gorsedd y Cymwl enwog tu ol i'r ty. Mae'r ffermdy yn debyg iawn i fferm adre yng Nghymru ac mae Charlie a Margarita, ei wraig, yn gwbl rhugl yn y Gymraeg. Aeth Margarita a fi am dro at yr Argae ym Mharc Los Alerces lle cefais ddod yn agos iawn at Gorsedd y Cwmwl a gweld y 'lliain' ar ben y mynydd! Mae hen chwedl yn gweud os ydych chi'n troi eich pen fod y creigiau ar gopa'r mynydd yn edrych fel wyneb lleian yn gwisgo ei phenwisg. Doedd hi ddim y diwrnod brafiaf, ond roedd y golygfeydd yn dal yn fendigedig! Aethom yn ol wedyn am de ac roedd MArgarita wedi gwneud llond tray o daffi cartref hefyd...ew dwi'n bwyta'n dda ym Mhatagonia de!! Cyrhaeddais nol i Esquel wedi cael diwrnod arbennig. arall a llond fy mol ARALL! Dwi'n cael croeso mor dda ym mhob man...dim ond gobeithio y bydda i mor groesawgar os fydd rhywun yn dod i ymweld a fi yng Nghymru!

Daeth dau i'r clwb siarad p'nawn yma ac fe wyliais y Steddfod cyn ag ar ol y dosbarth. Roeddwn i'n gwylio sermoni'r Fedal Ryddiaeth ac roeddwn wedi dod ar draws yr eneth nath enill mewn caffi ym Mharis pan oeddwn yno i wylio'r rygbi mis Mawrth! Roedd y dosbarth meithrin wedyn rhwng 6 a 7 ac roedd tri wedi dod ac eisiau paentio oedden nhw heddiw! Ymarfer cor wedyn rhwng 8 a 9:30 ac i'r lle pizza dros y ffordd wedyn gyda'r cor am swper. Mae mynd i'r lle pizza ar ol practis yn hen draddodiad...maen nhw'n son amdano yn Lonely Planet yr Ariannin hyd yn oed! Ew mae hi wedi bod yn ddiwrnod prysur!

Monday 3 August 2009

Fe gefais benwythnos digon tawel i ddod dros fy wythnos brysur ac fe gefais gnoc ar fy nrws nos Sadwrn i ddweud fod y cor Seion yn ail ddechrau ymarfer y noson honno ac a oeddwn am fynd i ymuno. Wel pam lai medde fi, dwi ddim wedi canu mewn cor ers blynyddoedd a blynyddoedd ond ffwrdd a fi i ymuno gyda'r altos ac i drio canu Salm 23. Mae yne waith ymarfer ar gyfer Eisteddfod Chubut ddiwedd mis Hydref..ac mi fydd hi'n dipyn o gystadeulaeth..yn enwedig os fydd Hywel yn cystadlu yn fy erbyn gyda Chor y Gaiman! Mi fydd ymarfer bob nos Sadwrn a nos Fercher rwan, ia, fi'n mynd i bractis cor ar nos sadwrn!

Mi nes wylio Eisteddfod y Bala ar y we brynhawn Sul a gweld lot o bobl oeddwn i'n nabod yn y 12 cor oedd yn canu...mi ges blwc o hiraeth wrth weld pawb...ond nath ddim para am hir chwaith!
Roedd hi'n gynnes neis dydd Sul ac es am dro...heb got! Ew roedd hi'n braf, es am dro i gyfeiriad Trevelin gan basio rhyw fath o dwrnament pel-droed...ac am gae pel-droed oedd hefyd! Doedd nad ddim glaswelltyn yn golwg, dim ond tir anwastad iawn iawn!

Nes i basio'r orsaf dan yma yn Esquel hefyd, ond mi fues i'n ddigon call i beidio mynd mewn fyd!

Nes drio mynd i'r gwely'n gynnar nos Sul gan fod gwaith yn ailddechrau am 9 fore Llun, oedd yn golygu dal y bws 7:50 o Esquel! Roeddwn i wedi cael ambell 'lie in' dros y mis dwethaf rhaid fi ddeud ac mi oedd yn sioc i'r system codi'n fore unwaith eto! Mae hi'n dal yn dywyll dywyll yn bore yma ac roedd hi'n bwrw bore 'ma hefyd! Ond codi a wnes, ac fe gawsom wers dda iawn, roedd 6 ohonom a phawb yn falch o fod yn ol yn y gwersi!
Nes i ddod nol i Esquel i wylio'r Coroni (dwi'n lot mwy o eisteddfodwraig yma nag adref!) a wedyn mynd am dro arall o gwmpas Esquel gan fod y glaw wedi peidio a'r haul wedi ymddangos.

Saturday 1 August 2009

Gwyl y Ganiad ac wythnos fythgofiadwy!


Dydd Llun 27ain Gorffennaf
Roedd y daith dros y paith yn ddigon distaw a di-nod, ond doeddwn i ddim wedi llwyddo i gysgu llawer chwith, dim byd diddorol wedi digwydd (diolch byth, mae rhai damweiniau a digwyddiadau wedi digwydd yn ddiweddar felly hapus iawn i gyrraedd Trelew am 6 o'r gloch fore Llun! Daliais dacsi i'r Gaiman gan ddeffro Catrin yn gynnar am lety! Ac ew roedd hi'n oer yn Gaiman am hanner awr wedi chwech y bore! Es syth i'r stafell sbar oer am power nap cyn codi i fynd o amgylch y Gaiman efo Hywel a Catrin a grwp arddegau Catrin, Roeddyn nhw'n gorffen ffilmio fidio o'r Gamian yn cyflwyno'r lle ar gyfer eu cwrs Cymraeg. Mae mwy o bobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn y Gaiman ac roedd yn braf eu gweld yn siarad Cymraeg!
Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig a'r awyr yn las las, felly penderfynasom fynd drosodd i Borth Madryn am y prynhawn.
Roeddwn i wedi bwriadu mynd i Borth Madryn dydd Mawrth, 28ain O Orffennaf i ddathlu Gwyl y Glaniad. Gwyl y Glaniad yw'r diwrnod pwysicaf i'r Cymry yma ym Mhatagonia. Maen nhw'n dathlu glaniad y Mimosa yn 1864 ac mae gwahanol ddigwyddiadau yn digwydd ar draws Chubut. Maen nhw fel arfer yn ailgreu'r glaniad ym Madryn gyda chwch yn dod i'r lan gyda phobl mewn gwisgoedd Cymreig ar y gwch....ond yn anffodus...oherwydd y ffliw moch (run hen stori!) roedd y digwyddiad hwn wedi ei ganslo eleni! Felly, gan ei bod hi nor braf, aethom i Fadryn heddiw yn lle i edrych o gwmpas. Roedd hyn yn golygu bws i Drelew ac yna bws i Fadryn, sydd rhyw awr i ffwrdd. Roedd John o Amlwch wedi cyrraedd y Gaiman bellach hefyd felly i ffwrdd a Hywel, Catrin, John a fi am Fadryn. Mae Madryn yn dref lan y mor neis iawn, mwy Llandudno na'r Rhyl! Mae Madryn yn enwog am ei forfilod ac bywyd gwyllt ac am laniad cyntaf y Cymry wrth gwrs! Fe gerddasom ar hyn y traeth i'r pendraw achos yma mae'r man lle glaniodd y Cymry cyntaf a'r ogofeydd lle dwedir iddynt fod wedi cael lloches gyntaf. Fel inni gerdded ar hyd y traeth, roeddem ni'n gallu gweld y morfilod yn y mor..roeddynt mor mor agos at y lan roedd yn anhygoel ac roedd cymaint ohonynt o gwmpas. Fe gyrhaeddasom y creigiau ar ochr arall i Fadryn er mwyn cael gweld yr ogofeydd ac mae yna amgueddfa yno hefyd, yn ogystal a chofgolofn gydag enwau pawb ddaeth drosodd ar y Mimosa. Mae'n bosib eistedd tu mewn i'r amgueddfa yn edrych allan trwy'r ffenest i'r fan lle glaniodd y Cymry cyntaf, a chan ein bod yma 144 o flynyddoedd yn ol i'r diwrnod bron roedd yn deimlad arbennig iawn ac yn meddwl pa mor ddewr oedd y fintai gyntaf honno a'r caledi oedd wedi eu wynebu ar ol cyrraedd yn y blynyddoedd cyntaf.

Dydd Mawrth 28ain Gorffennaf 2009
Dwi'n meddwl fod heddiw yn un o'r dyddiau mwyaf swreal o fy mywyd...mewn ffordd dda hynny yw! Roedd hi'n 28ain o Orffennaf, sef y dyddiad pwysiaf yng nghalendr y Wladfa. 28 de Julio ydi enw'r cwmni bws sy'n rhedeg rhwng trelew a'r Gaiman hyd yn oed! Gwyl y Gl.aniad oedd hi wrth gwrs ac roedd y dwrnod o'm blaen yn un prysur iawn! Y digwyddiad cyntaf oedd Cyngerdd yng Nghanolfa Dewi Sant yn Nhrelew, ac aeth Catrin a fi i'r bus stop i gyfarfod a Hywel a John i fynd ar y bws drosodd i Drelew, ond nid ni oedd yr unig Gymry ar y bws, roedd dwy ddynes o ochrau Abertawe a thair merch yn mynd i'r un lle a ni, a phwy arall landiodd ar y bws ond Bentley a Noah hefyd! Roedd fel petai ein bod ni yng Nghymru! I ffwrdd a ni gyd felly ac roedd teimlad arbennig i'r diwrnod o'r cychwyn cyntaf. Aethom heibio Ysgol yr Hendre a'r gofgolofn i ddathlu'r Cymry yn Nhrelew, cyn cyrraedd y Ganolfan a mynd i nol sedd. Fe lenwodd y lle yn ddigon cyflym a llawer o bobl wedi gwisgo yn eu dillad gorau fel petaent yn mynd i'r capel ar y sul! Roedd llawr o'r wasg yno yn ffilmio ac yn tynnu lluniau ac fe gychwynnodd y cyngerdd gydag anthem yr Ariannin...dwi ddim wedi ei dysgu eto...peth arall ar y rhestr o bethau i'w gwneud! Mae gan y faner le amlwg iawn yn yr Ariannin ac mae'n bwysig iawn, mae Diwrnod y Faner hyd yn oed sy'n Wyl y Banc! Roedd baneri o wahanol wledydd i gynrychioli'r mewnfudwyr oedd wedi dod i'r ariannin. Fe gawsom nifer o wahanol eitemau a ol i'r baneri fynd gan gynnwys Grwp Dawnsio Gwerin Trelew, Cor Merched y Gaiman a wyresau Luned Gonzalez yn adrodd un o'r Salmau...ac roeddynt yn wych! Fe wnaethom ganu Hen Wlad fy Nhadau i orffen ac roedd y ganu mor frwd fe gefais ias lawr fy nghefn...sy'n beth anghyffredin iawn a finnau ddim yn Stadiwm y Mileniwm! Dwi'n meddwl fod unrhyw un gydag unrhyw dras Cymreig yn dod i'r wyneb ar Wyl y Glaniad!
Wedi'r cyngerdd, ymlaen a ni i Gapel Moriah ar gyrion Trelew i'r Gymanfa Ganu ac roedd y lle yn orlawn erbyn i ni gyrraedd, felly roedd rhaid sefyll yn y cefn! Roeddem ni'n canu emynau Cymreig, ond pennill yn Gymraeg a phennill yn Sbaeneg..roedd hyn yn od iawn! Ac ew roedd na ganu da fel fasen nhw'n ddeud adre! Fe gafwyd ambell i ddarlleniad yn Sbaeneg cyn i Mair Davies bregethu'n Gymraeg, ac roedd yn angerddol iawn yn yr hyn oedd ganddi i'w ddweud am ddyfodol yr iaith Gymraeg. Cafwyd moment emosiynol wedyn wrth i'r ddynes hynaf sy'n siarad Cymraeg gael blodau. Oni bai am y Sbaeneg oedd yn cael ei siarad bob hyn a hyn..roedd yn gyfanfa ganu hollol nodweddiadol Gymreig a phan oedd pawb yn siarad tu allan i'r capel ar ol y gymanfa, gallaswn fod wedi bod mewn unrhyw gapel yng Nghymru! Roedd pawb yn eu dillad gorau hefyd...oni bai amdana i..crys rygbi Cymru wrth gwrs!
Y stop nesaf oedd nol i'r Gaiman am de! Mae'r te Cymreig yn rhan pwysig o ddathlu Gwyl y Glaniad ac fe wnaethom benderfynu mynd i festri capel Bethel yn y Gaiman i brofi'r te...cefais sioc pan welais y bobl oedd yn ciwio tu allan i'r capel i fynd i mewn!!! Mae te Gwyl y Glaniad yn rhyw fath o ffenomenen yma, gyda phobl o phob tras yn dod i gymryd rhan! Roedd y Gaiman yn orlawn trwy'r dydd, gyda'r tri chapel a'r holl dai te yn orlawn trwy'r prynhawn. Fe gawsom fynd i mewn ar ol ciwio am rhyw hanner awr...ac roedd yn werth yr aros, paned ar ol paned ar ol paned a bara menyn, jamiau cartref, sgons a phob math o gacen yn cael eu gweini...roedd rhaid profi pob un wrth gwrs! Ar ol cael gwerth ein pres, (a phan dwi'n dweud hynny, dwi'n golygu hynny!!) roedd yn bryd i ni symud i rywun arall ddod i'n lle...a phan aethom allan, roedd y ciw yn hirach fyth. Aeth Hywel, John, Catrin a fi am dro bach o gwmpas y Gaiman er mwyn digestio chydig o'r te, ac erbyn i ni gerdded o gwmpas y Gaiman, roedd hi'n amser digwyddiad nesaf y dydd! Roedd cyngerdd bach yn digwydd yn festri capel Bethel gydag eitemau gan y Cymry a'r pobl frodorol. Roedd clywed y plant bach yn adrodd adroddadau Cymraeg o'r eisteddfodau adref yn arbennig iawn! Cefais ias am yr ail dro wrth ganu'r anthem i orffen, rhyfedd iawn canu'r anthem ddwywaith heb unrhyw rygbi'n agos at y lle!!
Doedd fy niwrnod i heb orffen eto...roeddwn i wedi cael gwahoddiad i fynd i dy Esyllt am swper. Daeth Estyllt allan i'r Gaiman fel athrawes rhyw bedair mlynedd yn ol ac mae hi wedi priodi a chael dau o blant bach bellach a setlo yma ond mae hi'n hoffi cael cwrdd a'r Cymry sy'n pasio heibio! Cefais noson neis iawn gyda hi a'i gwr Cristian, sy'n ddeintydd yn y Gaiman ac yn gwbl rhugl yn y Gymraeg...a phan adawais am hanner nos..doedd y diwrnod heb ddod i ben eto! Es i gwrdd a Hywel, John a Catrin yn Gwalia Lan am ddiod er mwyn dathlu'r diwrnod go iawn...ac roedd hi'n 5 y bore wedi i mi gyrraedd fy ngwely! Roedd wedi bod yn ddiwrnod bythgofiadwy ac emosiynol iawn fydd yn aros yn y cof am amser maith!

http://www.youtube.com/menterpatagonia#play/all/uploads-all/1/IDxSsxI3aQ0


Dydd Mercher 29ain Gorffennaf
Cefais 'lie in' bore yma diolch byth ar ol holl gyffro'r diwrnod cynt. Fe ddaliais y tacsi i Drelew gan fod streic bysys..ond roedd y streic drosodd erbyn i mi gyrraedd Trelew hefyd! Aeth Hywel a fi i'r Touring ac roedd dwy o Gymry yno yn cael paned hefyd. Maent yn astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd ac wedi dod i Batagonia i wneud eu profiad dramor ac yma am rhyw ddau fis, mis yn Nhrelew a mis yn yr Andes. Noson honno aethom i Gwalia Lan am swper gyda Luned, diwrnod digon tawel i ricyfro ar ol y diwrnod cynt!

Dydd Iau 30ain Gorffennaf
Dolavon oedd hi y bore yma! Mae Dolavon rhyw 15k o'r Gaiman i gyfeiriad y paith ac yn bentref bychan hyfryd iawn. Mae yna hen felin sydd wedi ei gwneud yn bwyty Eidaleg ac roedd y bwyd yn fendigedig iawn. Does na ddim cymaint a hynny i'w weld yn Dolavon ond mae'n le braf iawn! Mae perchennog yr hen felin yn dangos dvd o'r holl gapeli Cymreig sydd yn yr ardal, rhyw 8 dwi'n credu, sy'n gwbl anhygoel mewn ardal mor fechan! Does na ddim llawer yn mynd ymlaen yn y capeli dyddaiau yma'n anffodus, ond maen nhw'n cael eu cadw mewn cyflwr da. Roedd yn braf cael mynd draws gwlad i Ddolavon a chael gweld rhai o'r ffermydd anghysbell iawn!
Roeddwn i'n mynd i gyfarfod gydag Ariel Grant Hughes yn y prynhawn ar fferm Pen y Gelli ar gyrion Trelew. Roeddwn i wedi cyfarfod Ariel yn ystod fy wythnos gyntaf oherwydd fod ganddo gysylltiad gyda Swyn Spencer ac roedd wedi rhoi gwahoddiad i mi fynd i'r fferm pan oeddwn yn yr ardal nesaf. Fe gefais brynhawn bendigedig! Roedd Ariel a'i wraig Marta arfer byw yn Esquel ac yn rhedeg ty ty yn fy fflat i yn y ganolfan!! Mae'r ddau yn gwbl rhugl yn y Gymraeg ac wedi symud nol i'r ffarm lle magwyd Ariel ar ol marwolaeth ei dad. Roedd hen ddreser Gymreig yn y gegin oedd wedi dod o Gymru ac fe gefais brynhawn ardderchog yn edrych trwy hen luniau ac yn gwrando ar straeton Marta ac Ariel. Roeddynt mor groesawgar ac fe gefais de gwerth chweil unwaith eto! Mae mab Ariel a Marta wedi agor gwesty bychan ar dir y ffarm, Gwesty Ffarm Taid ac mae'n le hyfryd iawn ac mae cynlluniau i adeiladu rhagor o ystafelloedd a chabanau hefyd..felly os fyddwch yn yr ardal rhywbryd ac eisiau rhywle i aros..Ffarm Taid amdani!! Gadawais y fferm gyda gwahoddiad i fynd nol, jar o jam a llyfr wedi ei arwyddo gan Ariel...a llond fy mol wrth gwrs!

Dydd Gwener 31ain Gorffennaf
Roeddwn i'n gadael am yr Andes am y bws nos y noson honno felly doeddwn ddim eisiau gwneud gormod heddiw. Roedd Catrin yn cael parti bychan gyda phlant y Gaiman i ddweud ffarwel yn yr ysgol feithrin ac wedyn penderfynodd Hywel a fi fynd i Fynwent y Gaiman i edrych ar y cerrig beddi. Mae'n rhaid bod fi'n troi mewn i mam achos dyma'r math o beth fyddai hi'n mwynhau! Ac mi nes fwynhau hefyd...mewn ffordd rhyfedd!! Redd cannodd ar ganoedd o gerrig beddi ac roedd yn brofiad eithaf emosiynol rhaid dweud. Mae llawer o feddi'r rhai hynny ddaeth yma ar y fintai gyntaf, y Mimosa, yma ynghyd a'u disgynyddion. Yma hefyd mae bedd Eluned Morgan. Roedd rhai beddi trist iawn ac un o'r tristaf oedd carreg fedd
'Er cof am Ebenezer, 11 oed,
William Henry, 8 oed a
Jane Alice 6 oed,
y rhai a foddwyd yn afon y Camwy Chwefror 9fed 1906,
Ar unwaith yr aethant drwy geullif y Camwy
Yng nghofal eu Hangel i ddinas yr hedd
Tri enaid i Wynfa, eu cyrff rhoddwyd yma
Ar unwaith deffroant o hirgwsg y bedd'
Trist trist iawn i feddwl fod eu rhieni wedi dod drosodd yma'n edrych am fywyd gwell mae'n siwr ac fod y drychineg yma wedi digwydd yma. Roedd ambell fedd arall i blant oedd wedi boddi yn yr afon hefyd. Roedd yn fynwent dawel iawn mewn lleoliad hyfryd a dwi'n gweld fi'n dod nol yma i ddarganfod rhagor tro nesaf byddaf yn yr ardal. Dwi hefyd eisiau darganfod bedd Dafydd Jones, sef brawd fy hen hen hen daid ddaeth drosodd yma...mae gen i ambell 'lead' felly gobeithio cyn i mi fynd oddi yma!
Daliais y bws 10:45 nol i Esquel, y coche cama tro yma yn hytrach na'r semi cama..chydig mwy o steil a bwyd ar y bws hefyd, ac yn fwyd da fyd! Nes i ddim llwyddo i gysgu chwaith ac fe gyrhaeddais Esquel am 7 y bore wedi blino'n lan, ond wedi cael wythnos fythgofiadwy!