Dydd Gwener Mehefin 19
Mi oeddwn i a Heledd wedi trefnu i fynd i Barc Celedlaethol Los Alerces y bore yma. Mi nes i ddeffro, edrych allan trwy´r ffenestt ac yn gobeithio nad oedd hi´n glawio…ond ro
ed
d Esquel yn wyn ac yn dal i fwrw eira!! Mi oeddwn i´n siwr na fyddai´r trip yn mynd yn ei flaen, ond dyma´r bws mini yn cyrraedd ac mi ddywedodd y dyn o´r cwmni ei bod hi´n braf yn y parc, doeddwn i ddim yn ei gredu´n llwyr ond i ffwrdd a ni am y parc ac yn wir, er byn cyrraedd y parc doedd dim golwg o unrhyw eira er ei bod hi braidd yn gymylog ac yn oer oer iawn. Ond dyma´r haul yn dangos ei wyneb ganol bore ac mi gawsom ni ddiwrnod bendigedig ym Mharc Los Alerces (math o goeden ydi Alerces). Roedd yr awyr yn las las a´r haul yn tywnnu ac roedd rhai o´r golygfeydd yn anhygoel, yn enwedig y golygfeydd yn edrych ar draws y llyn gyda´r mynyddoedd yn adlewyrchu yn y dwr. Roedd y tywysydd yn swnio fel ei fod yn llawn gwybodaeth hefyd, dim ond piti nad oeddwn i´n gallu gwerthfawrogi´
r hyn oedd yn ei ddweud. Dwi´n edrych ymlaen i gael dod nol i´r parc hwn gan ei fod yn fy ngardd gefn bron. Fe gawsom ni´n parc i ni´n hunan yn gyfangwbl heddiw gan nad oes neb arall yn mynd yno yn y gaeaf.
Roedd y rhan fwyaf o´r eira wedi mynd erbyn cyrraedd yn ol i´r ganolfan ac roedd hi´n brysur iawn yno gyda´r amryw ddosbarthaidau oedd yn digwydd. Eisteddais i mewn ar ddosbarth plant Gladys, pedwar disgybl brwdfrydig iawn sy´n dilyn cwrs Taith Iaith i ddysgwyr. Roedd hi´n sesiwn hwylus iawn a dwi´n edrych ymlaen i fod yn rhan o´r dosbarth hwn.

Nos Wener, dyma´r trafferth yn dechrau!!! Dannodd ofnadwy!! Mi oeddwn i wedi cael trafferth cyn mynd i ffwrdd ac wedi bod at y deintydd yn Rhuthun a hwnnw wedi deud nad oedd dim o´i le…..ond mi oedd rhywbeth mawr o´i le!!!
Dydd Sadwrn Mehefin 20
Wedi noswaith ddigwsg, dyma fi´n dechrau tecstio gwahanol bobl yn gofyn be ddyliwn i wneud…dydi hi ddim yn beth pleserus bod mewn poen mewn gwlad lle nad ydych chi´n gallu siarad yr iaith!! Dyma Joyce yn dod i fy achub ac aeth a fi o gwpas holl ddeintyddion Esquel, ac mae llawer ohonnynt, ond dim lwc, pawb ar gau ar ddydd Sadwrn! Doedd dim amdani felly ond mynd i´r ysbyty! Ymunais â´r ciw yn A&E (ar ol talu 30 peso, rhyw 5 punt) a phan ddaeth fy nhro i, es i´r ciwbicl lle cefais fy nghweld gan y meddyg. Ar ol edrych yn fy ngheg penderfynodd fy mod i angen pigiad yn fy mhen ol i leddfu´r boen!! Dyma´r tro cyntaf i mi gael pigiad yn fy mhen ol a dydi ddim yn brofiad dwi am ailadrodd yn fuan!! Does gen i ddim syniad beth oedd yn y chwistrelliad…ond mi weithiodd i´r dim!! Dydi ymweld â´r ysbyty ddim yn brofiad dwi am wneud eto ar frys…ond dyne ni!!
Mi oeddwn i´n edrych ymlaen felly i wrando ar gem y Llewoc v De Affrica. Dwi´n gallu gwrando ar radio´r BBC trwy´r cyfrifiadur yma felly dyma fi´n ei roi ymlaen…ond som am siomedigaeth!! Does ganddyn nhw ddim yn hawlfraint i ddarlledu chwaraeon byw!! A´r hyn gefais ar 5live oedd ailadroddiad o´r rhaglen cyn gem beldroed ffeinal yr FA llynedd!! Felly, roedd rhaid i mi ´wylio´r´ gem ar y gwasanaeth testun ar BBC sport!! Dim hyn oedd gen i mewn golwg o gwbl!

Mi oedd pobl Trevelin wedi trefnu te croeso i mi´r noson honno a dyma fi´n dal y bws yno, yn teimlo tipyn gwell erbyn hyn, ond ddim am fwyta dim melys rhag ypsetio´r ddaint. Ond sut allwn i wrthod yr holl ddanteithion blasus oedd wedi eu paratoi ar fy nghyfer! Digywilydd fyddai hynny! Cefais gwrdd â phobl glên Trevelin ac mi roedd y gacen almon yn fendigedig! Dwi´n edrych ymlaen i ddod i Drevelin, maen nhw´n bobl tebyg i bobl Pentrecelyn!
Dydd Sul Mehefin 21
ed
d Esquel yn wyn ac yn dal i fwrw eira!! Mi oeddwn i´n siwr na fyddai´r trip yn mynd yn ei flaen, ond dyma´r bws mini yn cyrraedd ac mi ddywedodd y dyn o´r cwmni ei bod hi´n braf yn y parc, doeddwn i ddim yn ei gredu´n llwyr ond i ffwrdd a ni am y parc ac yn wir, er byn cyrraedd y parc doedd dim golwg o unrhyw eira er ei bod hi braidd yn gymylog ac yn oer oer iawn. Ond dyma´r haul yn dangos ei wyneb ganol bore ac mi gawsom ni ddiwrnod bendigedig ym Mharc Los Alerces (math o goeden ydi Alerces). Roedd yr awyr yn las las a´r haul yn tywnnu ac roedd rhai o´r golygfeydd yn anhygoel, yn enwedig y golygfeydd yn edrych ar draws y llyn gyda´r mynyddoedd yn adlewyrchu yn y dwr. Roedd y tywysydd yn swnio fel ei fod yn llawn gwybodaeth hefyd, dim ond piti nad oeddwn i´n gallu gwerthfawrogi´
r hyn oedd yn ei ddweud. Dwi´n edrych ymlaen i gael dod nol i´r parc hwn gan ei fod yn fy ngardd gefn bron. Fe gawsom ni´n parc i ni´n hunan yn gyfangwbl heddiw gan nad oes neb arall yn mynd yno yn y gaeaf.Roedd y rhan fwyaf o´r eira wedi mynd erbyn cyrraedd yn ol i´r ganolfan ac roedd hi´n brysur iawn yno gyda´r amryw ddosbarthaidau oedd yn digwydd. Eisteddais i mewn ar ddosbarth plant Gladys, pedwar disgybl brwdfrydig iawn sy´n dilyn cwrs Taith Iaith i ddysgwyr. Roedd hi´n sesiwn hwylus iawn a dwi´n edrych ymlaen i fod yn rhan o´r dosbarth hwn.

Nos Wener, dyma´r trafferth yn dechrau!!! Dannodd ofnadwy!! Mi oeddwn i wedi cael trafferth cyn mynd i ffwrdd ac wedi bod at y deintydd yn Rhuthun a hwnnw wedi deud nad oedd dim o´i le…..ond mi oedd rhywbeth mawr o´i le!!!
Dydd Sadwrn Mehefin 20
Wedi noswaith ddigwsg, dyma fi´n dechrau tecstio gwahanol bobl yn gofyn be ddyliwn i wneud…dydi hi ddim yn beth pleserus bod mewn poen mewn gwlad lle nad ydych chi´n gallu siarad yr iaith!! Dyma Joyce yn dod i fy achub ac aeth a fi o gwpas holl ddeintyddion Esquel, ac mae llawer ohonnynt, ond dim lwc, pawb ar gau ar ddydd Sadwrn! Doedd dim amdani felly ond mynd i´r ysbyty! Ymunais â´r ciw yn A&E (ar ol talu 30 peso, rhyw 5 punt) a phan ddaeth fy nhro i, es i´r ciwbicl lle cefais fy nghweld gan y meddyg. Ar ol edrych yn fy ngheg penderfynodd fy mod i angen pigiad yn fy mhen ol i leddfu´r boen!! Dyma´r tro cyntaf i mi gael pigiad yn fy mhen ol a dydi ddim yn brofiad dwi am ailadrodd yn fuan!! Does gen i ddim syniad beth oedd yn y chwistrelliad…ond mi weithiodd i´r dim!! Dydi ymweld â´r ysbyty ddim yn brofiad dwi am wneud eto ar frys…ond dyne ni!!
Mi oeddwn i´n edrych ymlaen felly i wrando ar gem y Llewoc v De Affrica. Dwi´n gallu gwrando ar radio´r BBC trwy´r cyfrifiadur yma felly dyma fi´n ei roi ymlaen…ond som am siomedigaeth!! Does ganddyn nhw ddim yn hawlfraint i ddarlledu chwaraeon byw!! A´r hyn gefais ar 5live oedd ailadroddiad o´r rhaglen cyn gem beldroed ffeinal yr FA llynedd!! Felly, roedd rhaid i mi ´wylio´r´ gem ar y gwasanaeth testun ar BBC sport!! Dim hyn oedd gen i mewn golwg o gwbl!

Mi oedd pobl Trevelin wedi trefnu te croeso i mi´r noson honno a dyma fi´n dal y bws yno, yn teimlo tipyn gwell erbyn hyn, ond ddim am fwyta dim melys rhag ypsetio´r ddaint. Ond sut allwn i wrthod yr holl ddanteithion blasus oedd wedi eu paratoi ar fy nghyfer! Digywilydd fyddai hynny! Cefais gwrdd â phobl glên Trevelin ac mi roedd y gacen almon yn fendigedig! Dwi´n edrych ymlaen i ddod i Drevelin, maen nhw´n bobl tebyg i bobl Pentrecelyn!
Dydd Sul Mehefin 21

Mi oedd hi´n Ddiwrnod y Tad heddiw a rhan fwyaf o bobl yr ardal yn treulio´r diwrnod gyda´u teuluoedd. Es i draw i Drevelin at y bobl eraill dideulu yma a mynd am dro i gwmpas y pentref gyda Clare a Heledd. Roedd hi´n ddiwrnod braf a cefais weld yr olygfa odidog o´r mynyddoedd o´r diwedd. Aethom am bizza i ddiweddu´r diwrnod, daeth llawer o´r Eidal drosodd i ´r Ariannin yn y ganrif ddiwethaf ac mae bwyd Eidaledd blasus iawn i´w gael.
Dydd Llun Mehefin 22
Mi oedd rhaid mynd i edrych am ddeintydd y bore yma doedd. Aeth Joyce a fi i dri neu bedwar lle gwahanol nes i rywun all edrych arnaf. Mae´r deintydd yn brysur iawn yma mae´n amlwg, yr holl dulce de leche ´falle! Dyma´r deinydd yn agor y ´filling´ac yn dechrau busnesa yn y daint, doedd hi ddim yn gweld arwydd o ddim byd yn y pelydr x, ond ar ol archwilio gyda nodwydd (yn boenus iawn!) dyma hi´n dod o hyd i´r drwg ac yn dangos y nodwydd llawn puss yn fuddugoliaethus o flaen fy llygaid! Wel son am wingo mewn poen, ac ar ol cael y tabledi gwrthfiotig mwyaf dwi erioed wedi eu gweld (digon i ladd ceffyl dwi´n siwr!) fe leddfodd y boen. Treuliais weddill y diwrnod yn teimlo´n drist iawn drostaf fi´n hun, ew peth cas ydi bod mewn gwewyr mewn gwlad ddiarth! Mi oedd Joyce yn werth y byd a dwn i ddim beth faswn i wedi gwneud hebddi!! Diolch yn fawr IAWN Joyce!
Dydd Mercher Mehefin 24
Dwi´n mynd i Drevelin ar fore dydd Mercher i gynorthwyo gyda´r dosbarth Wlpan ac oherwydd mai dyma´r tro cyntaf i mi fynd ac nad oes gennyf i oriad eto, penderfynais fynd ar y bws 9 fel nad oedd rhaid i mi sefyll tu allan i´r ysgol am dri chwarter awr (gan ei bod hi mor ofnadwy o oer!)…ond ni weithiodd y cynllun o gwbl! Ni ddaeth y bws 9 o´r gloch ac mi oeddwn i´n fferu yn yr arhosfa fws nes deg munud wedi deg!! Mi oedd y dosbarth drosodd erbyn i mi gyrraedd!! Mae dod i arfer peidio cael car a gorfod dibynnu ar fysys yn mynd i fod yn anodd iawn. Ond mi ges oriad, felly ni fydd problem y tro nesa!
Es i fyny i Casaverde, yr hostel yn Nhrevelin i edrych am Heledd ac aeth y ddwy ohonom at yr arhosfa i ddal y bws 12:15 nol i Esquel…ond doedd dim bws 12:15 wrth gwrs! Roedd rhaid i ni aros tan 1 am y bws nesa! Mae´n siwr bod bobl yn chwerthin ar ben yr eneth yn y got wen sy´n gwneud dim ond sefyll yn aros am fws yn yr oerfel!
Mi wnaethom benderfynu ein bod ni´n haeddu cinio yn y caffi neis yn y dre, La Luna i gynhesu, a submarino bach wrth gwrs. Ac fel ´treat´bach i goronni´r cyfan, ges i waffles dulce de leche….hmmm sgwn i pam fod gen i´r ddannodd!!








Mi oedd gennym ni fws i’w ddal beth bynnag….bws 20 awr, ia 20 awr (!!) i Drelew!! Mi oeddwn i wedi clywed fod bysys De America yn rhai moethus ond ddim am gredu hynny nes ei weld efo fy llygaid fy hunan…ac ew, dyma deithio mewn steil! Traws Cambria take note!! Seddi oedd yn troi yn wlâu, a chael gwasanaeth fatha cabin crew ar awyren, dyn bach yn dod a bwyd a diod i ni….digon diddorol oedd y bwyd ´fyd…deud dim mwy.


