Thursday 16 July 2009

Sgio, cerdded a 'chydig o waith!

Dydd Sadwrn 4ydd Gorffennaf

Tywydd ofnadwy heddiw, felly dim dewis ond aros i mewn o flaen y teli bocs! Llewod a ffeinal Wimbledon ymlaen, felly digon i fy niddori!

Dydd Sul 5ed Gorffennaf

Rhagor o law felly gwylio ffeinal dynion Wimbledon (aeth ymlaen yn ddigon hir!) a meddwl beth ydw i am wneud am y mis nesaf! Fel y dywedais, mae bron popeth wedi cael ei ohirio ym mis Gorffennaf, felly gwaith paratoi ar gyfer mis Awst fydd hi mae´n siŵr. Ond o leiaf mi fydd gen i gwmni yn y dyddiau nesa fan od Hywel a Catrin yn dod draw o´r Gaiman am dro, yr un yw´r sefyllfa draw fanno felly dod draw i weld be sy´n mynd ymlaen yn fama!

Dydd Llun 6ed Gorffennaf

Diwrnod arall o law di-baid! Glawio trwy´r dydd a gorfod gosod bwcedi mewn llefydd strategol yn y gegin i ddal y dŵr odd yn dod i mewn trwy´r to! Ges i wers Sbaeneg arall yn y prynhawn, ond yn anffodus mae fy athrawes yn mynd i Buenos Aries am fis felly mi fydd raid i mi wneud gwaith astudio fy hunan…dwi´n llawn bwriadu gwneud hyn ar y funud…ond gewn ni weld! Mi gyrhaeddodd Hywel a Catrin Esquel tua 10 heno a mynd draw i aros yn Casaverde yn Nhrevelin. Maw Casaverde yn cael ei redeg gan Bibi aí theulu ac mae hi wedi dysgu Cymraeg er nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau Cymreig.

Dydd Mawrth 7fed Gorffennaf

Ges i neges gan Hywel yn deud eu bod yn bwriadu mynd i La Hoya heddiw i sgïo felly dyma hi´n penderfynu bachu´r cyfle i fynd gyda nhw. Dwi erioed wedi sgïo o´r blaen ond bob amser wedi bod eisiau mynd felly cyfle delfrydol gyda´r Ganolfan ddim ond rhyw 8 milltir o Esquel.
Felly ar ôl bod yn nol ein hoffer sgïo, ffwrdd â Catrin, Hywel a fi, ynghyd â Sara ac Anest o Gaernarfon sy´n teithio o amgylch De America i LA Hoya! Doeddwn i ddim yn siŵr beth i´w ddisgwyl ac mi oedd y daith ar y lifft i gyrraedd y mynydd yn ddigon ofnus ynddo´i hunan! Sara gafodd y job anffodus o helpu fi ddysgu sgïo ac roedd hi´n athrawes amyneddgar a da iawn ar ôl iddi ddangos y pethau pwysig imi, fel sut i stopio (!) mi oeddwn i´n ddigon hapus i fynd fy hun, a ffwrdd â hi, Hywel ac Anest i ben y mynydd i edrych am ´runs´ mwy heriol. Mi oedd Catrin a fi´n ddigon hapus i aros ar y bryn ´nursery´ am y tro ynghanol y plant bychan, oedd yn gwibio i lawr heibio ni! Y darn anoddaf oedd cydio yn y rhaff oedd yn ein cludo nôl i fyny´r bryn, ac mae gen i glais mawr ar fy mraich am fy ymdrechion. Mae´n amlwg nad oedd fy nhechneg i´n iawn! Fe gawsom brynhawn pleserus iawn ac roeddwn i wedi mwynhau mas draw ac yn gobeithio cael dod yma eto! Ac ar ôl submarino yr un i orffen y prynhawn, nol a ni lawr i Esquel yn y tacsi, gan weld rhai golygfeydd anhygoel ar y ffordd i lawr.

Es i Drevelin y noson honno i ymuno gyda´r criw, a des yn ôl i Esquel ar y bws olaf ar ôl cael swper ac wedi blino´r lân. Mi gysgais i´n dda iawn y noson honno! Lot gwell na Catrin, Hywel, Sara ac Annest! Ond stori arall yw honno!

Dydd Mercher 8fed Gorffennaf

Deffrois y bore yma gyda chyhyrau dolurus iawn! Mi oedd gen i fy nosbarth siarad am 2 ac roedd 2 o´r dosbarth wedi mentro i´r wers. Daeth Catrin a Hywel i ymuno gyda´r dosbarth ac fe gawsom awr hwylus iawn. Aethom am baned wedyn i Maria Castana ac yna aeth Catrin i finnau i weld gorsaf drên La Trochita, ond doedd y trên ddim yno wrth gwrs. Un o´r dyddiau yma, mi wela i´r hen drên stem!

Roedd yna e-bost yn fy nisgwyl pan gyrhaeddais yn ôl yn fy ngwahodd i gyfarfod grŵp gefeillio Aberystwyth ac Esquel. Dwi´n meddwl mai'r llynedd wnaethon nhw efeillio ac roeddynt yn awyddus imi fynd draw i gyfarfod pawb. Felly ffwrdd a fi, Hywel a Catrin draw i'r Ganolfan Dwristiaeth i'r pwyllgor, yn anffodus, doeddwn i ddim wedi gallu deall dim bron o'r cyfarfod gan ei fod yn sbaeneg, ond o leiaf roeddwn i wedi cyfarfod pobl wahanol, a dwi'n gobeithio gallu eu cynorthwo dros y misoedd nesa. Aeth Catrin, Hywel a fi dros y ffordd i Killarney's am Quilmers bach cyn mynd ymlaen i La Luna am swper.

Dydd Iau Gorffennaf 10fed

Mae trip o bobl ifanc Gogledd Cymru sy'n cael ei drefnu ar y cyd rhwng yr Urdd a Menter Patagonia yn dod i Batagoniaym mis Hydref ac mae gan Hywel a finnau lawer o waith paratoi ar ei gyfer. Yn ddigon ffodus, roedd Hywel draw gyda chriw y llynedd ac yn gwybod pa weithgareddau oedd y bobl ifanc wedi fwynhau. Aethom ati i lunio amserlen ar eu cyfer. Mae cymaint i'w weld am amser yn brin.
Penderfynasom fynd am 'treat' bach ar ol yr gwaith caled a mynd i Maria Castana am waffle yr un cyn i Catrin a Hywel adael ar y bws nos y noson honno.

Dydd S
ul Gorffennaf 13eg
Mi oed
d hi'n ddiwrnod braf iawn heddiw felly penderfynais fynd i ddarganfod mwy o Esquel ac fe gerddais i Laguna la Zeta, llyn sydd rhyw 5k o Esquel. Mae'r llyn i fyny ffordd droellog serth, ac mi oedd cyfradd curiad y galon yn codi wrth gerdded i fyny'r llwybr! Roedd y llyn yn le tawel, hardd iawn a fi oedd yr unig un o gwmpas. Roedd yr olygfa yn edrych i lawr ar Esquel o ben y bryn yn un arbennig iawn ac mae'r dref yn edrych yn llawer mwy o uchder!!


Dydd Mawrth Gorffennaf 15fed
Diwrnod braf braf iawn arall heddiw, felly es am dro arall. Ar hyn y tracs tren i gyfeiriad La Hoya y tro ma. Des ar draws lle
o'r enw La Cascada (rhaeadr ydi cascada..ond nes i ddim gweld rhaeadr chwaith!) ac mi oedd yn le neis iawn i fynd am dro, gyda'r awyr yn las a'r haul yn adlewyrchu ar y dwr. Nes i basio arwydd Esquel ac Aberystwyth (maen nhw wedi gefeillio'r llynedd), y cae peldroed a'r pwllnofio...oedd yn hollol wag wrth gwrs oherwydd ei fod ar gau oherwydd y ffliw! Mae yna ddelw dyn eira anferth ar y ffordd wrth ddod i mewn i Esquel hefyd...dydi dyn eira just ddim yn iawn ym mis Gorffennaf!!
Es allan am bizza y noson honno gyda dwy eneth o Goleg Llanymddyfri sydd drosodd ym Mhatagonia am fis. Maen nhw'n aros gyda theulu yn y Gaiman ac wedi dod draw i Esquel i sgio. Mae hi'n dechrau prysuro yma rwan hefyd, gyda thwristiaid yn ymddangos. Roedd na Almaenwyr yn La Anomina heddiw fyd!

Dydd Mercher Gorffennaf 16eg
Roedd hi'n amser y dosbarth siarad unwaith eto, a daeth y ddau aelod ffyddlon unwaith eto! Fe gawsom siarad am bob math o bethau a wedyn fe dreuliais y prynhawn yn gweud man bethau fel mynd i'r londret...mae'r Sbaeneg yn dal yn anobeithiol ond o leiaf mae'n gwella chydig bach a dwi'n gallu rhywfath o ddeud be dwi isio! Cefais wahoddiad i dy Gladys am swper a blasus iawn oedd hefyd! Dwi wrthi'n trio ysgrifennu Llais yr Andes ac roeddwn eisiau mynd i drafod syniadau gyda Gladys. Roedd yna gem beldroed bwysig iawn yn digwydd heno, rownd derfynol clybiau De America, equivalent i'r Champions League Ewrop. Mae'n siwr eich bod yn gwybod eu bod wrth eu boddau gyda pheldroed yma...ac mi nath dim o'r ARiannin, Estudiantes de la Plata guro tim o Frasil, felly roedd llawenydd mawr yma!! Roedd cyrn y ceir yn bibian tan y bore felly ni chefais lawer o gwsg!!

No comments:

Post a Comment