Monday 6 July 2009

Chilly yn Chile a Ffliw´r Moch

Dydd Gwener 26ain Mehefin
Tecstiodd Clare neithiwr yn holi os hoffwn i fynd am dro gyda hi a Victor i Chile heddiw, doeddwn i erioed wedi bod yn Chile o'r blaen, felly pam lai oedd medde fi! Mi oeddem ni'n cael tacsi o Drevelin felly roedd rhaid i mi ddal y bws 7:50 o Esquel ac mae hi'n dywyll fel bol buwch adeg hynny ac yn anodd codi! Mi oedd hi'n fore oer oer iawn hefyd, ond yn sych...hyd nes cyrraedd Trevelin, lle'r oedd hi'n gwbl wyn ac yn bwrw eira! Mae'r tywydd yn rhyfedd iawn yma!
Roeddem ni'n mynd i Futelefu, tref yn Chili sydd ochr arall i'r ffin ac mae rhyw 30 milltir i ffwrdd a dydi hi ddim y ffordd orau o bell ffordd! Dyma ni'n cyrraedd 'border control' ochr yr Ariannin, sy'n cael ei redeg gan y fyddin, a chwbl alla i feddwl ydi bod milwyr yn cael eu gyrru yma i weithio fel cosb!! Mae mewn lle mor anghysbell, wir yng nghanol unlle a fedra i ddim meddwl fod llawer o bobl yn pasio heibio, yn enwedig yn y gaeaf. Mi wnaethon nhw gymryd digon o amser yn mynd trwy ein dogfennau beth bynnag. Ond cawsom ein gadael allan ac yn ein blaenau drwy dir neb nes cyraedd 'border control' Chile, lle'r oedd y swyddogion yn ein disgwyl yn gwisgo masgiau, mae'n rhaid bod golwg sâl arnom ni!
Roedd y gwahaniaeth rhwng Chile a'r Ariannin i'w weld bron ar unwaith...ac nid yn unig oherwydd yr ieir oedd yn cerdded tu allan i'r swyddfa! Roedd Chile yn teimlo'n hollol wahanol a ninnau prin dros y ffin. Cawsom fynediad i'r wlad – stamp arall i'r casgliad – ac ymlaen a ni i'r dref. Mae Futelefu yn dref brysur yn yr haf gyda thwristiaid yn dod i fwynhau'r awyr agored...ond ar ddiwrnod dychrynllyd o oer yng nghanol y gaeaf, roedd hi fel y bedd! Mi oedd yr eira wedi peidio ond roedd hi'n rhewllyd rhewllyd ac roeddwn i'n falch fy mod wedi gwisgo fy thermals o dan fy nillad, yn ogystal â dwy got, menig sgïo, het wlân a sgarff...ac mi oeddwn i'n dal yn oer!
Mi oedd Clare yn dweud fod y golygfeydd o'r mynyddoedd o gwmpas y dref yn anhygoel..ond doedd dim posib gweld dim oherwydd y niwl!
Aethom i mewn i siop i brynu siocled (rhatach yma na'r Ariannin!) ac roedd y siop yn fy atgof o'r siop yn Open All Hours! Penderfynasom fynd i gaffi i gynhesu..ond dwi'n meddwl ei bod hi'n gynhesach tu allan! Does 'na ddim nwy yn Futelafu ond mi ges baned dda iawn rhaid fi ddeud!
Mi oedd hi'n amser dychwelyd i'r Ariannin erbyn hyn a gorfod mynd trwy'r un rigmarol o groesi'r ffin!
Es i dy Clare a Victor am ginio cyn dychwelyd i Esquel ganol pnawn, roedd gen i waith i'w wneud! Roeddwn i'n cymryd fy nosbarth plant cyntaf ar fy mhen fy hun ac yn teimlo braidd yn nerfus! Doeddwn i ddim yn siŵr sut oedd y plant yn mynd i fy neall i...ond doedd dim rhaid poeni, doedd dim problem a chyda digon o ystumiau roedd pawb wedi mwynhau, dwi'n gobeithio!
Roedd cebl y teledu wedi ei ailgysylltu hefyd, ac felly gefais noson o fynd trwy'r sianeli gyda rhai ffilmiau'n cael eu 'dubbio' ac eraill gydag isdeitlau. Roeddwn i'n falch o weld ESPN hefyd, oedd yn golygu fy mod i'n gallu gwylio'r rygbi! Hwre!!





Dydd Sadwrn 27 Mehefin
Codi'n gynnar heddiw felly i wylio'r Llewod v De Affrica ac ew am gêm dda, piti am y canlyniad! O'Gara!! Does 'na ddim llawer o ddiddordeb gan bobl yma am y rygbi deud gwir, pêl-droed ydi popeth. Wimbledon oedd hi wedyn am y prynhawn a gweld ei bod hi'n boeth iawn adre...dwi ddim yn methu gorfod gwisgo fy iwnifform gwaith yn y tywydd poeth rhaid fi ddeud!




Dydd Sul 28 Mehefin
Es draw i Drevelin pnawn yma eto i gael cinio gyda Clare a'r teulu. Cefais brynhawn diddorol iawn gyda Clare, Victor a phlant Victor, Roedden nhw yn ymarfer eu Saesneg gyda fi a finnau'n ceisio ymarfer fy Sbaeneg drwg gyda nhw. Mae 'amser teulu' yn bwysig yma ac fe chwaraeasom 'rummy' trwy'r pnawn cyn i Clare ddangos ei doniau coginio a gwneud cacenni cri, neis iawn!
Roedd hi'n ddiwrnod etholiadau heddiw ac mae diwrnod pleidleisio yn wahanol iawn i adre! Erbyn i mi gyrraedd nôl i Esquel, roedd tyrfa wedi ymgasglu ar y stryd efo baneri a drymiau yn mynegi eu teimladau am y llywodraeth....gwahanol iawn i bleidleisio yng Nghapel Pentrecelyn!




Dydd Llun 29 Mehefin
Mi oeddwn i'n cychwyn fy ngwaith o ddifrif heddiw ac roedd gen i ddosbarth Wlpan yn Nhrevelin am 9 y bore, oedd yn golygu dal y bws 7:50 o Esquel. Un o'r pethau mwyaf dwi'n gofod dod i arfer gydag ef ydi diffyg car a gorfod dibynnu ar y bysys sy'n troi fyny pan fyddan nhw'n ffansio! Mae aros dros hanner awr am fws peth cynta'n y bore a hithau'n dywyll ac yn oer yn 'frustrating' iawn, ond dyne ni! Bydd rhaid fi ddod i arfer.
Laura sy'n dysgu Wlpan 1. Mae hi'n byw yn Nhrevelin ac wedi dysgu Cymraeg er nad oes ganddi gysylltiadau Cymreig. Roedd hi wedi treulio cyfnod yn Llangrannog ddechrau'r flwyddyn yn gwirfoddoli ac wedi cael amser wrth ei bodd ac mae ei Chymraeg yn ardderchog! Y peth oedd yn ei phoeni oedd ei bod hi'n siarad Cymraeg y de a finnau'n dod o'r Gogledd! Maen nhw'n dueddol o siarad Cymraeg gydag acen ogleddol yma hefyd sy'n ddiddorol iawn ac maen nhw'n hoffi fy acen i'n fawr iawn!
Nol ar y bws yn y prynhawn ac roedd gen i wers Sbaeneg o'r diwedd! Dwi'n cael gwersi gan Liliana sy'n un o fyfyrwyr Wlpan 2 a dwi'n cael gwersi ganddi mewn cyfnewid am gymorth gyda'i Chymraeg, sy'n siwtio fi i'r dim! Does gan Liliana ddim cysylltiad Cymraeg chwaith, dim ond diddordeb mewn ieithoedd, mae hi'n siarad Saesneg, Rwsieg a Ffrangeg, yn ogystal â Sbaeneg, ond Cymraeg ydi'r anoddaf hyd hyn meddai hi!



Dydd Mawrth 30 Mehefin
Diwrnod i ddal fyny gyda gwaith papur heddiw! Sgwennu ambell erthygl i wefan MenterPatagonia ac erthygl i'r Bedol a chyfieithu bwydlenni'r dafarn Wyddelig i Gymraeg!


Dydd Mercher 1 Gorffennaf
I Drevelin ar y bws unwaith eto i Wlpan 1 efo Laura a chyfarfod bychan wedyn a darganfod fod y llywodraeth yn bwriadu cau'r ysgolion yn gynnar ynghyd a chanslo gweithgareddau a chau adeiladau am y mis nesaf mewn ymgais i ddelio gyda'r ffliw moch!! Mae nifer fawr yn dioddef o'r ffliw yma ac mae'r llywodraeth wedi panicio braidd ac felly bydd ysgolion, sinemâu, pyllau nofio, canolfannau hamdden ac ati ar gau am fis!! Mae llawer o bobl yn cerdded o gwmpas Esquel efo masgiau a menig rwber ar eu dwylo. Ma si bydd y llywodraeth yn cyhoeddi 'State of Emergency' dros y penwythnos, gewn ni weld! Dydi teithio byth yn ddiflas nad ydi!!
Roedd gennyf fy Nghlwb Siarad cyntaf y pnawn yma, sef clwb i'r dysgwyr sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg ac fe gefais brynhawn diddorol yn siarad am yr Ariannin a Chymru.


Dydd Iau 2 Gorffennaf
Es drosodd i Drevelin ar y bws eto'r bore yma (mae'n siŵr eich bod yn dechrau gweld patrwm! Mynd i Drevelin ar y bws....dod adref o Drevelin ar y bws!) i gyfarfod Clare a mynd i gyfarfod rhai o'r bobl sy'n gweithio o fewn twristiaeth a diwylliant yn y pentref. Yr un neges oedd gan bawb, popeth wedi ei ohirio am fis felly dim byd yn mynd ymlaen felly dyne ni! O leiaf bydd gennyf ddigon o amser i baratoi ar gyfer mis Awst!

Dydd Gwener 3 Gorffennaf

Ges i ddosbarth plant eto pnawn yma, ac mi oedd y plant wedi blino´n arw heddiw! Ond fe gawsom hwyl yn dysgu enwau pynciau´r ysgol yn Gymraeg.
Mae Clare yn mynd i Gymru am fis felly roedd hi'n cael noson ffarwelio yn y lle pizza yn Esquel. Roeddem ni'n cyfarfod am 9:30...mae'n anodd dod i arfer bwyta mor hwyr â finnau wedi arfer cael swper am 6! Ond roedd criw ohonom ni yno....ynghyd a llawer iawn o bobl ifanc..dathlu bod yr ysgol ar gau yn fuan dwi'n meddwl! Fe gawsom fwyd da iawn, ond roedd hi'n amser mynd pan ddaeth y peiriant carioci i fyw a'r plant yn canu Chuiquitita mewn Sbaeneg!

No comments:

Post a Comment