Saturday 1 August 2009

Gwyl y Ganiad ac wythnos fythgofiadwy!


Dydd Llun 27ain Gorffennaf
Roedd y daith dros y paith yn ddigon distaw a di-nod, ond doeddwn i ddim wedi llwyddo i gysgu llawer chwith, dim byd diddorol wedi digwydd (diolch byth, mae rhai damweiniau a digwyddiadau wedi digwydd yn ddiweddar felly hapus iawn i gyrraedd Trelew am 6 o'r gloch fore Llun! Daliais dacsi i'r Gaiman gan ddeffro Catrin yn gynnar am lety! Ac ew roedd hi'n oer yn Gaiman am hanner awr wedi chwech y bore! Es syth i'r stafell sbar oer am power nap cyn codi i fynd o amgylch y Gaiman efo Hywel a Catrin a grwp arddegau Catrin, Roeddyn nhw'n gorffen ffilmio fidio o'r Gamian yn cyflwyno'r lle ar gyfer eu cwrs Cymraeg. Mae mwy o bobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn y Gaiman ac roedd yn braf eu gweld yn siarad Cymraeg!
Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig a'r awyr yn las las, felly penderfynasom fynd drosodd i Borth Madryn am y prynhawn.
Roeddwn i wedi bwriadu mynd i Borth Madryn dydd Mawrth, 28ain O Orffennaf i ddathlu Gwyl y Glaniad. Gwyl y Glaniad yw'r diwrnod pwysicaf i'r Cymry yma ym Mhatagonia. Maen nhw'n dathlu glaniad y Mimosa yn 1864 ac mae gwahanol ddigwyddiadau yn digwydd ar draws Chubut. Maen nhw fel arfer yn ailgreu'r glaniad ym Madryn gyda chwch yn dod i'r lan gyda phobl mewn gwisgoedd Cymreig ar y gwch....ond yn anffodus...oherwydd y ffliw moch (run hen stori!) roedd y digwyddiad hwn wedi ei ganslo eleni! Felly, gan ei bod hi nor braf, aethom i Fadryn heddiw yn lle i edrych o gwmpas. Roedd hyn yn golygu bws i Drelew ac yna bws i Fadryn, sydd rhyw awr i ffwrdd. Roedd John o Amlwch wedi cyrraedd y Gaiman bellach hefyd felly i ffwrdd a Hywel, Catrin, John a fi am Fadryn. Mae Madryn yn dref lan y mor neis iawn, mwy Llandudno na'r Rhyl! Mae Madryn yn enwog am ei forfilod ac bywyd gwyllt ac am laniad cyntaf y Cymry wrth gwrs! Fe gerddasom ar hyn y traeth i'r pendraw achos yma mae'r man lle glaniodd y Cymry cyntaf a'r ogofeydd lle dwedir iddynt fod wedi cael lloches gyntaf. Fel inni gerdded ar hyd y traeth, roeddem ni'n gallu gweld y morfilod yn y mor..roeddynt mor mor agos at y lan roedd yn anhygoel ac roedd cymaint ohonynt o gwmpas. Fe gyrhaeddasom y creigiau ar ochr arall i Fadryn er mwyn cael gweld yr ogofeydd ac mae yna amgueddfa yno hefyd, yn ogystal a chofgolofn gydag enwau pawb ddaeth drosodd ar y Mimosa. Mae'n bosib eistedd tu mewn i'r amgueddfa yn edrych allan trwy'r ffenest i'r fan lle glaniodd y Cymry cyntaf, a chan ein bod yma 144 o flynyddoedd yn ol i'r diwrnod bron roedd yn deimlad arbennig iawn ac yn meddwl pa mor ddewr oedd y fintai gyntaf honno a'r caledi oedd wedi eu wynebu ar ol cyrraedd yn y blynyddoedd cyntaf.

Dydd Mawrth 28ain Gorffennaf 2009
Dwi'n meddwl fod heddiw yn un o'r dyddiau mwyaf swreal o fy mywyd...mewn ffordd dda hynny yw! Roedd hi'n 28ain o Orffennaf, sef y dyddiad pwysiaf yng nghalendr y Wladfa. 28 de Julio ydi enw'r cwmni bws sy'n rhedeg rhwng trelew a'r Gaiman hyd yn oed! Gwyl y Gl.aniad oedd hi wrth gwrs ac roedd y dwrnod o'm blaen yn un prysur iawn! Y digwyddiad cyntaf oedd Cyngerdd yng Nghanolfa Dewi Sant yn Nhrelew, ac aeth Catrin a fi i'r bus stop i gyfarfod a Hywel a John i fynd ar y bws drosodd i Drelew, ond nid ni oedd yr unig Gymry ar y bws, roedd dwy ddynes o ochrau Abertawe a thair merch yn mynd i'r un lle a ni, a phwy arall landiodd ar y bws ond Bentley a Noah hefyd! Roedd fel petai ein bod ni yng Nghymru! I ffwrdd a ni gyd felly ac roedd teimlad arbennig i'r diwrnod o'r cychwyn cyntaf. Aethom heibio Ysgol yr Hendre a'r gofgolofn i ddathlu'r Cymry yn Nhrelew, cyn cyrraedd y Ganolfan a mynd i nol sedd. Fe lenwodd y lle yn ddigon cyflym a llawer o bobl wedi gwisgo yn eu dillad gorau fel petaent yn mynd i'r capel ar y sul! Roedd llawr o'r wasg yno yn ffilmio ac yn tynnu lluniau ac fe gychwynnodd y cyngerdd gydag anthem yr Ariannin...dwi ddim wedi ei dysgu eto...peth arall ar y rhestr o bethau i'w gwneud! Mae gan y faner le amlwg iawn yn yr Ariannin ac mae'n bwysig iawn, mae Diwrnod y Faner hyd yn oed sy'n Wyl y Banc! Roedd baneri o wahanol wledydd i gynrychioli'r mewnfudwyr oedd wedi dod i'r ariannin. Fe gawsom nifer o wahanol eitemau a ol i'r baneri fynd gan gynnwys Grwp Dawnsio Gwerin Trelew, Cor Merched y Gaiman a wyresau Luned Gonzalez yn adrodd un o'r Salmau...ac roeddynt yn wych! Fe wnaethom ganu Hen Wlad fy Nhadau i orffen ac roedd y ganu mor frwd fe gefais ias lawr fy nghefn...sy'n beth anghyffredin iawn a finnau ddim yn Stadiwm y Mileniwm! Dwi'n meddwl fod unrhyw un gydag unrhyw dras Cymreig yn dod i'r wyneb ar Wyl y Glaniad!
Wedi'r cyngerdd, ymlaen a ni i Gapel Moriah ar gyrion Trelew i'r Gymanfa Ganu ac roedd y lle yn orlawn erbyn i ni gyrraedd, felly roedd rhaid sefyll yn y cefn! Roeddem ni'n canu emynau Cymreig, ond pennill yn Gymraeg a phennill yn Sbaeneg..roedd hyn yn od iawn! Ac ew roedd na ganu da fel fasen nhw'n ddeud adre! Fe gafwyd ambell i ddarlleniad yn Sbaeneg cyn i Mair Davies bregethu'n Gymraeg, ac roedd yn angerddol iawn yn yr hyn oedd ganddi i'w ddweud am ddyfodol yr iaith Gymraeg. Cafwyd moment emosiynol wedyn wrth i'r ddynes hynaf sy'n siarad Cymraeg gael blodau. Oni bai am y Sbaeneg oedd yn cael ei siarad bob hyn a hyn..roedd yn gyfanfa ganu hollol nodweddiadol Gymreig a phan oedd pawb yn siarad tu allan i'r capel ar ol y gymanfa, gallaswn fod wedi bod mewn unrhyw gapel yng Nghymru! Roedd pawb yn eu dillad gorau hefyd...oni bai amdana i..crys rygbi Cymru wrth gwrs!
Y stop nesaf oedd nol i'r Gaiman am de! Mae'r te Cymreig yn rhan pwysig o ddathlu Gwyl y Glaniad ac fe wnaethom benderfynu mynd i festri capel Bethel yn y Gaiman i brofi'r te...cefais sioc pan welais y bobl oedd yn ciwio tu allan i'r capel i fynd i mewn!!! Mae te Gwyl y Glaniad yn rhyw fath o ffenomenen yma, gyda phobl o phob tras yn dod i gymryd rhan! Roedd y Gaiman yn orlawn trwy'r dydd, gyda'r tri chapel a'r holl dai te yn orlawn trwy'r prynhawn. Fe gawsom fynd i mewn ar ol ciwio am rhyw hanner awr...ac roedd yn werth yr aros, paned ar ol paned ar ol paned a bara menyn, jamiau cartref, sgons a phob math o gacen yn cael eu gweini...roedd rhaid profi pob un wrth gwrs! Ar ol cael gwerth ein pres, (a phan dwi'n dweud hynny, dwi'n golygu hynny!!) roedd yn bryd i ni symud i rywun arall ddod i'n lle...a phan aethom allan, roedd y ciw yn hirach fyth. Aeth Hywel, John, Catrin a fi am dro bach o gwmpas y Gaiman er mwyn digestio chydig o'r te, ac erbyn i ni gerdded o gwmpas y Gaiman, roedd hi'n amser digwyddiad nesaf y dydd! Roedd cyngerdd bach yn digwydd yn festri capel Bethel gydag eitemau gan y Cymry a'r pobl frodorol. Roedd clywed y plant bach yn adrodd adroddadau Cymraeg o'r eisteddfodau adref yn arbennig iawn! Cefais ias am yr ail dro wrth ganu'r anthem i orffen, rhyfedd iawn canu'r anthem ddwywaith heb unrhyw rygbi'n agos at y lle!!
Doedd fy niwrnod i heb orffen eto...roeddwn i wedi cael gwahoddiad i fynd i dy Esyllt am swper. Daeth Estyllt allan i'r Gaiman fel athrawes rhyw bedair mlynedd yn ol ac mae hi wedi priodi a chael dau o blant bach bellach a setlo yma ond mae hi'n hoffi cael cwrdd a'r Cymry sy'n pasio heibio! Cefais noson neis iawn gyda hi a'i gwr Cristian, sy'n ddeintydd yn y Gaiman ac yn gwbl rhugl yn y Gymraeg...a phan adawais am hanner nos..doedd y diwrnod heb ddod i ben eto! Es i gwrdd a Hywel, John a Catrin yn Gwalia Lan am ddiod er mwyn dathlu'r diwrnod go iawn...ac roedd hi'n 5 y bore wedi i mi gyrraedd fy ngwely! Roedd wedi bod yn ddiwrnod bythgofiadwy ac emosiynol iawn fydd yn aros yn y cof am amser maith!

http://www.youtube.com/menterpatagonia#play/all/uploads-all/1/IDxSsxI3aQ0


Dydd Mercher 29ain Gorffennaf
Cefais 'lie in' bore yma diolch byth ar ol holl gyffro'r diwrnod cynt. Fe ddaliais y tacsi i Drelew gan fod streic bysys..ond roedd y streic drosodd erbyn i mi gyrraedd Trelew hefyd! Aeth Hywel a fi i'r Touring ac roedd dwy o Gymry yno yn cael paned hefyd. Maent yn astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd ac wedi dod i Batagonia i wneud eu profiad dramor ac yma am rhyw ddau fis, mis yn Nhrelew a mis yn yr Andes. Noson honno aethom i Gwalia Lan am swper gyda Luned, diwrnod digon tawel i ricyfro ar ol y diwrnod cynt!

Dydd Iau 30ain Gorffennaf
Dolavon oedd hi y bore yma! Mae Dolavon rhyw 15k o'r Gaiman i gyfeiriad y paith ac yn bentref bychan hyfryd iawn. Mae yna hen felin sydd wedi ei gwneud yn bwyty Eidaleg ac roedd y bwyd yn fendigedig iawn. Does na ddim cymaint a hynny i'w weld yn Dolavon ond mae'n le braf iawn! Mae perchennog yr hen felin yn dangos dvd o'r holl gapeli Cymreig sydd yn yr ardal, rhyw 8 dwi'n credu, sy'n gwbl anhygoel mewn ardal mor fechan! Does na ddim llawer yn mynd ymlaen yn y capeli dyddaiau yma'n anffodus, ond maen nhw'n cael eu cadw mewn cyflwr da. Roedd yn braf cael mynd draws gwlad i Ddolavon a chael gweld rhai o'r ffermydd anghysbell iawn!
Roeddwn i'n mynd i gyfarfod gydag Ariel Grant Hughes yn y prynhawn ar fferm Pen y Gelli ar gyrion Trelew. Roeddwn i wedi cyfarfod Ariel yn ystod fy wythnos gyntaf oherwydd fod ganddo gysylltiad gyda Swyn Spencer ac roedd wedi rhoi gwahoddiad i mi fynd i'r fferm pan oeddwn yn yr ardal nesaf. Fe gefais brynhawn bendigedig! Roedd Ariel a'i wraig Marta arfer byw yn Esquel ac yn rhedeg ty ty yn fy fflat i yn y ganolfan!! Mae'r ddau yn gwbl rhugl yn y Gymraeg ac wedi symud nol i'r ffarm lle magwyd Ariel ar ol marwolaeth ei dad. Roedd hen ddreser Gymreig yn y gegin oedd wedi dod o Gymru ac fe gefais brynhawn ardderchog yn edrych trwy hen luniau ac yn gwrando ar straeton Marta ac Ariel. Roeddynt mor groesawgar ac fe gefais de gwerth chweil unwaith eto! Mae mab Ariel a Marta wedi agor gwesty bychan ar dir y ffarm, Gwesty Ffarm Taid ac mae'n le hyfryd iawn ac mae cynlluniau i adeiladu rhagor o ystafelloedd a chabanau hefyd..felly os fyddwch yn yr ardal rhywbryd ac eisiau rhywle i aros..Ffarm Taid amdani!! Gadawais y fferm gyda gwahoddiad i fynd nol, jar o jam a llyfr wedi ei arwyddo gan Ariel...a llond fy mol wrth gwrs!

Dydd Gwener 31ain Gorffennaf
Roeddwn i'n gadael am yr Andes am y bws nos y noson honno felly doeddwn ddim eisiau gwneud gormod heddiw. Roedd Catrin yn cael parti bychan gyda phlant y Gaiman i ddweud ffarwel yn yr ysgol feithrin ac wedyn penderfynodd Hywel a fi fynd i Fynwent y Gaiman i edrych ar y cerrig beddi. Mae'n rhaid bod fi'n troi mewn i mam achos dyma'r math o beth fyddai hi'n mwynhau! Ac mi nes fwynhau hefyd...mewn ffordd rhyfedd!! Redd cannodd ar ganoedd o gerrig beddi ac roedd yn brofiad eithaf emosiynol rhaid dweud. Mae llawer o feddi'r rhai hynny ddaeth yma ar y fintai gyntaf, y Mimosa, yma ynghyd a'u disgynyddion. Yma hefyd mae bedd Eluned Morgan. Roedd rhai beddi trist iawn ac un o'r tristaf oedd carreg fedd
'Er cof am Ebenezer, 11 oed,
William Henry, 8 oed a
Jane Alice 6 oed,
y rhai a foddwyd yn afon y Camwy Chwefror 9fed 1906,
Ar unwaith yr aethant drwy geullif y Camwy
Yng nghofal eu Hangel i ddinas yr hedd
Tri enaid i Wynfa, eu cyrff rhoddwyd yma
Ar unwaith deffroant o hirgwsg y bedd'
Trist trist iawn i feddwl fod eu rhieni wedi dod drosodd yma'n edrych am fywyd gwell mae'n siwr ac fod y drychineg yma wedi digwydd yma. Roedd ambell fedd arall i blant oedd wedi boddi yn yr afon hefyd. Roedd yn fynwent dawel iawn mewn lleoliad hyfryd a dwi'n gweld fi'n dod nol yma i ddarganfod rhagor tro nesaf byddaf yn yr ardal. Dwi hefyd eisiau darganfod bedd Dafydd Jones, sef brawd fy hen hen hen daid ddaeth drosodd yma...mae gen i ambell 'lead' felly gobeithio cyn i mi fynd oddi yma!
Daliais y bws 10:45 nol i Esquel, y coche cama tro yma yn hytrach na'r semi cama..chydig mwy o steil a bwyd ar y bws hefyd, ac yn fwyd da fyd! Nes i ddim llwyddo i gysgu chwaith ac fe gyrhaeddais Esquel am 7 y bore wedi blino'n lan, ond wedi cael wythnos fythgofiadwy!

No comments:

Post a Comment