Sunday 14 June 2009

Gadael Cymru a Chyrraedd yr Ariannin!

Dwi wedi deud bod fi am gadw blog o´r daith, felly dyma fi´n cadw at fy ngair ac yn dechre beth bynnag (iawn Blod?!). Dwi ddim yn siwr pwy fydd ag unrhyw fath o ddiddordeb yn be sydd gen i´w ddweud ond dyma fi´n cychwyn o leiaf a dyma´n fras be digwyddodd yn ystod yr wythnos gyntaf! (English version to follow soon!)

Dydd Sul 7fed Mehefin 2009
Gadael Manceinion ar 7fed o Fehefin yn llawn cyffro o´r daith cyffrojçus o´m blaen, hedfan i Heathrow cyn dal y flight i Sao Paolo ym Mrasil cyn dal cysylltiad i Buenos Aires. Aeth Hywel, y swyddog arall sy’n mynd i fod yn ardal Trelew a’r Gaiman, a fi am ddiod yn Wetherspoons i feddwl am yr antur oedd o’n blaenau a ddau ohonom ni ddim yn wir gredu ein bod ar ein ffordd i Batagonia! Cael cychwyn da ar y daith, yr awyren yn wag bron a finnau´n cael rhes o ´extra leg room´ i fi fy hunan! Yr hediad yn 13 awr felly digon o amser i wylio ffilmiau ac mi oeddwn i´n hapus iawn gyda’r ´Brad Pitt fest´ oedd ar gael! Profiad gwerth chweil ar Tam Airlines rhaid deud, ond fy mod i wedi cymryd yr opsiwn anghywir i frecwast…yr omlet, doedd o ddim yn neis.
Dyma´r antur yn cychwyn o ddifrif yn Sao Paolo, ciwio am hir hir i fynd trwy ´security´ i gysylltu gyda´r awyren nesaf. Bu bron i ni fethu’r awyren pan fu raid i Hywel fynd nôl i edrych am ´boarding pass´ ac mi nathon ni ddal yr awyren gydag eiliadau’n weddill! Mi oeddwn i´n dechrau chwysu rhaid deud ag yn dechrau meddwl os ddylwn i fynd ar yr awyren os na fyddai Hywel yn troi fyny! Doedd dim rhaid i fi neud y penderfyniad diolch byth! Brecwast arall ar yr awyren yma, a finnau´n gwneud y penderfyniad anghywir unwaith eto, dwi ddim yn siŵr be oedd y brecwast i ddeud y gwir…
Cyrraedd Buenos Aires yn rhyw hanner disgwyl rhywun yno i´n croesawu…ond nid dyna´r achos…felly dyma fi a Hywel yn eistedd lawr, y ddau ohonom gyda’n Lonely Planets yn edrych am rywle i’w aros…spot the tourists!! Dewis Hotel Alcazar…ac mi oedd yn ddewis da chwarae teg o ystyried nad oedd gennym ni syniad i le’r oeddem ni´n mynd! Y gwesty ar Av de Mayo, reit yng nghanol pethe, Casa de Rosa un ochr (lle fu´r enwog Eva Peron yn araith y dorf…neu Madonna yn canu (ond newn ni ddim siarad am hynny!)). Ac mae wir yn Balas Pinc! Isio bwyd erbyn hyn, felly gan ein bod ni yn Buenos Aires…wel mynd am bizza de! Pizza neis oedd o fyd! Gwely noson honno wedi llwyr ymlâdd.


Dydd Mawrth 8fed Mehefin 2009
Dim llawer o syniad am beth oedd i’w weld yn ninas Buenos Aires…felly, ar ôl profiad y trip rygbi i Baris (efo Elin a Miriam) penderfynu be well ond mynd ar yr open top bus o gwmpas y ddinas…gweld bob dim (a dim cweit mor oer â Pharis gobeithio, brrr!). Dod oddi ar y bws yn ardal La Boca o´r ddinas, exceitio ´chydig ar ôl gweld stadiwm Boca Juniors! Mae Buenos Aires yn ddinas Ewropeaidd iawn…ond mae ardal La Boca yn hollol wahanol. Adeiladau lliwgar, lot o gerfluniau (weithiau rhai da…weithiau ddim mor dda!) Maradona a phobl yn gwneud yr Argentinian Tango yn y stryd, Strictly Come Dancing eat your heart out!!! Ges i fy machu am lun gyda’r dawnswyr. Dyma hefyd lle ges i fy mhrofiad cyntaf o ddiod ´submarino´, mwg o laeth a bar o siocled i’w feddalu ynddo…iym iym, y cyntaf o lawer dwi´n siŵr!




Nol ar y bws a dod i ffwrdd yn ardal Recoleta, y ddau ohonom ni eisiau mynd i weld bedd Evita am ryw reswm! (Meddwl y baswn i’n ychwanegu at y beddau enwog eraill dwi wedi eu gweld, JFK a Martin Luther King ymysg eraill!). Mae Mynwent Recoleta yn ddigon o ryfeddod a dwi ´rioed wedi gweld y ffasiwn le! Pentref o feirwon, strydoedd a strydoedd o feddrodau a gorfod dilyn y map i ffeindio Evita, dwi´n siŵr fy mod i´n gallu oglau marwolaeth yno!! Nathon ni ddim aros yno am rhy hir…


Mi oedd gennym ni fws i’w ddal beth bynnag….bws 20 awr, ia 20 awr (!!) i Drelew!! Mi oeddwn i wedi clywed fod bysys De America yn rhai moethus ond ddim am gredu hynny nes ei weld efo fy llygaid fy hunan…ac ew, dyma deithio mewn steil! Traws Cambria take note!! Seddi oedd yn troi yn wlâu, a chael gwasanaeth fatha cabin crew ar awyren, dyn bach yn dod a bwyd a diod i ni….digon diddorol oedd y bwyd ´fyd…deud dim mwy.




Dydd Mercher 9fed Mehefin 2009
Cyrraedd Trelew ar y daith fws fwyaf cyfforddus dwi ´rioed wedi ei chael beth bynnag a rhyw hanner ddisgwyl rhywun i´n cyfarfod ni yn yr orsaf fws yn Nhrelew…ond doedd neb yno unwaith eto…dechrau meddwl fod pawb wedi anghofio ein bod ar ein ffordd! Lwcus fod Hywel wedi bod yma o´r blaen a dyma ni´n neidio mewn i dacsi am yn mynd am y Gaiman i edrych am unrhyw fywyd yn fanno. Ond cyrraedd ar yr amser gwaethaf, sef amser siesta, lle mae popeth ar gau…a dwi´n golygu popeth! Ffeindio Catrin, athrawes o Lanrwst sydd wedi bod yma am bron i flwyddyn yn Nhŷ Camwy ac aros yno am Luned Gonzalez. Dyma fy mhrofiad cyntaf o siarad Cymraeg gyda Chymru’r Ariannin..ac mae’n brofiad swreal iawn!! Mae Luned yn bersonoliaeth fawr iawn yn yr ardal a dyma ni´n cael croeso cynnes iawn ganddi yn ei chartref ym Mhlas y Graig lle cawsom ginio gyda’r teulu, Tegai, chwaer Luned sydd yn ei hwythdegau a’i mab Fabio. Mi oedd mynd i Blas y Graig yn fy atgoffa o fynd i Gae Einion i edrych am Yncl John ac Anti Beca pan oeddem ni´n blant ac mae’n anhygoel mynd i dy sydd gymaint fel hen ffermdy Cymreig yn y cyfnod hwnnw ochr arall i’r byd! O Wyddelwern daw teulu Luned a Tegai yn wreiddiol ac felly mi oedden nhw´n nabod ardal Llysfasi a Rhuthun. Rhyfeddu wrth gerdded o gwmpas y Gaiman a gweld yr holl arwyddion Cymraeg ym mhobman a mynd i Gornel Wini am swper efo Catrin a Heledd (merch sydd ym Mhatagonia yn gwirfoddoli ac mi wnaethom ddarganfod ein bod ni´n perthyn!).

Dydd Iau 11eg Mehefin 2009
Mynd i Ysgol Gymraeg yr Hendre yn Nhrelew lle mae Catrin yn dysgu bob bore a rhyfedd iawn iawn gweld y plant yn cael eu gwersi yn y Gymraeg yma. Yr athrawon mor frwdfrydig dros yr iaith ac wedi dysgu mor dda.

Cael cyfle wedyn i eistedd mewn caffi efo wifi a mynd trwy ebyst…ew da di technoleg dyddiau yma! Mynd i swyddfa Eisteddfod Chubut i gwrdd â mwy o’m teulu! Mi oedd fy hen hen hen daid yn frawd i hen hen hen daid Cecilia! Byd ma´n fach tydi!

Dydd Gwener 12fed Mehefin 2009
Cael ´lie in´ neis…dim isio codi am ei bod hi mor mor oer yn Nhŷ´r Camwy! Diwrnod hyfryd tu allan felly Catrin a fi´n penderfynu mynd am dro o gwmpas Gaiman city…ar ôl empenada polo a submarino yn Siop Bara! Mynd at yr arwydd enwog a chael golygfa o´r Gaiman a’r ardal o gwmpas, sef anialwch llwyr. Dwi ddim yn gwybod beth oedd yr
ymsefydlwyr cyntaf yn feddwl o´r lle wir! Mynd at Gapel Bethel wedyn, sy’n mewn llawer gwell cyflwr na chapeli Cymru! Cerdded ar gerrig yr Orsedd, Eisteddfod Chubut ac edrych ymlaen at gael dod 'nôl i’r ardal adeg yr Eisteddfod ym mis Hydref.
Mae Tegir a Luned yn gwneud rhaglen radio bob nos Wener ar Radio Camwy. Rhaglen radio drwy’r Sbaeneg yw hi ond fod caneuon Cymraeg yn cael eu chwarae, tebyg iawn i raglen Dai Jones ar nos Sul a dyma Hywel a fi´n cael eu cyfweld. Mae’r ffigyrau gwrando’n rhyfeddol o uchel meddai nhw, gyda phobl heb unrhyw dras Gymreig yn gwrando achos eu bod yn hoffi’r miwsig Cymraeg!
Gadael y Gaiman y noson honno wedi cael amser da a chwerthin lot fawr!! Bws 11 o´r gloch nos i Esquel, dim ond 8 awr tro ma (fyddai ddim yn cwyno am y daith 4 awr rhwng Rhuthun a Chaerdydd byth eto!!) a chyrraedd am 6 y bore a hithau´n minws 3!! A haleliwia, mi oedd rhywun yn yr orsaf bws i´m croesawu!! Mi oedd wedi cymryd rhyw 20 awr mewn awyren, 28 awr mewn bws a 5 diwrnod i gyrraedd ´adref´ ac mi oedd hi´n braf iawn cael dadbacio o´r diwedd!!

5 comments:

  1. Da Loisi - llwyddo i ffeindio'r 'teulu' mor sydyn...Tydan ni'n bob man!
    Deutha fi 'wan - pwy di'r Hywel 'ma, mae o'n edrych yn gyfarwydd. Ydy o run oed a ni? ac yn coleg yn lerpwl? ac yn dod o port? Random questions!!

    Dim ond gobeithio y byddi'n cael cyfle i grwydro ychydig yn fwy hamddenol am dipyn!

    ReplyDelete
  2. Mae'n hi'n 'bank holiday' weekend ma, diwrnod y fflag, felly dwi wedi cael crwydro a dod i nabod Esquel...unig biti ydi nad oes nunlle'n agored!!

    ReplyDelete
  3. Hia Lois

    Neis iawn oedd gweld llun o ti efo Ariel a Alan Hughes - edrychaf ymlaen at y daith mis Hydref.

    Mwynha dy alfajores a submarinos!!! mmmmmmm

    Swyn :)

    ReplyDelete
  4. Mehefin 22 - haf wedi dechrau o'r diwedd. diwrnod bendigedig o braf ac Ifan wedi cael diwrnod mabolgampau o'r diwedd. gaeaf go iawn ynyr Andes felly. y daith yn mynd yn dda Lois !!!! Pryd wyt ti yn gorfod dechrau gweithio? Ti weld yn cael llawer o hwyl.
    Blog da! Dal ati!
    Hwyl
    Gwawr xxxx

    ReplyDelete
  5. Pobl Ruthun y canmol y blog a'r erthygl yn y Bedol. Dal ati Lois1

    ReplyDelete