Thursday 25 June 2009

Oerfel, prydferthwch a´r ddannodd!




Dydd Gwener Mehefin 19


Mi oeddwn i a Heledd wedi trefnu i fynd i Barc Celedlaethol Los Alerces y bore yma. Mi nes i ddeffro, edrych allan trwy´r ffenestt ac yn gobeithio nad oedd hi´n glawio…ond roedd Esquel yn wyn ac yn dal i fwrw eira!! Mi oeddwn i´n siwr na fyddai´r trip yn mynd yn ei flaen, ond dyma´r bws mini yn cyrraedd ac mi ddywedodd y dyn o´r cwmni ei bod hi´n braf yn y parc, doeddwn i ddim yn ei gredu´n llwyr ond i ffwrdd a ni am y parc ac yn wir, er byn cyrraedd y parc doedd dim golwg o unrhyw eira er ei bod hi braidd yn gymylog ac yn oer oer iawn. Ond dyma´r haul yn dangos ei wyneb ganol bore ac mi gawsom ni ddiwrnod bendigedig ym Mharc Los Alerces (math o goeden ydi Alerces). Roedd yr awyr yn las las a´r haul yn tywnnu ac roedd rhai o´r golygfeydd yn anhygoel, yn enwedig y golygfeydd yn edrych ar draws y llyn gyda´r mynyddoedd yn adlewyrchu yn y dwr. Roedd y tywysydd yn swnio fel ei fod yn llawn gwybodaeth hefyd, dim ond piti nad oeddwn i´n gallu gwerthfawrogi´r hyn oedd yn ei ddweud. Dwi´n edrych ymlaen i gael dod nol i´r parc hwn gan ei fod yn fy ngardd gefn bron. Fe gawsom ni´n parc i ni´n hunan yn gyfangwbl heddiw gan nad oes neb arall yn mynd yno yn y gaeaf.

Roedd y rhan fwyaf o´r eira wedi mynd erbyn cyrraedd yn ol i´r ganolfan ac roedd hi´n brysur iawn yno gyda´r amryw ddosbarthaidau oedd yn digwydd. Eisteddais i mewn ar ddosbarth plant Gladys, pedwar disgybl brwdfrydig iawn sy´n dilyn cwrs Taith Iaith i ddysgwyr. Roedd hi´n sesiwn hwylus iawn a dwi´n edrych ymlaen i fod yn rhan o´r dosbarth hwn.

Nos Wener, dyma´r trafferth yn dechrau!!! Dannodd ofnadwy!! Mi oeddwn i wedi cael trafferth cyn mynd i ffwrdd ac wedi bod at y deintydd yn Rhuthun a hwnnw wedi deud nad oedd dim o´i le…..ond mi oedd rhywbeth mawr o´i le!!!

Dydd Sadwrn Mehefin 20

Wedi noswaith ddigwsg, dyma fi´n dechrau tecstio gwahanol bobl yn gofyn be ddyliwn i wneud…dydi hi ddim yn beth pleserus bod mewn poen mewn gwlad lle nad ydych chi´n gallu siarad yr iaith!! Dyma Joyce yn dod i fy achub ac aeth a fi o gwpas holl ddeintyddion Esquel, ac mae llawer ohonnynt, ond dim lwc, pawb ar gau ar ddydd Sadwrn! Doedd dim amdani felly ond mynd i´r ysbyty! Ymunais â´r ciw yn A&E (ar ol talu 30 peso, rhyw 5 punt) a phan ddaeth fy nhro i, es i´r ciwbicl lle cefais fy nghweld gan y meddyg. Ar ol edrych yn fy ngheg penderfynodd fy mod i angen pigiad yn fy mhen ol i leddfu´r boen!! Dyma´r tro cyntaf i mi gael pigiad yn fy mhen ol a dydi ddim yn brofiad dwi am ailadrodd yn fuan!! Does gen i ddim syniad beth oedd yn y chwistrelliad…ond mi weithiodd i´r dim!! Dydi ymweld â´r ysbyty ddim yn brofiad dwi am wneud eto ar frys…ond dyne ni!!

Mi oeddwn i´n edrych ymlaen felly i wrando ar gem y Llewoc v De Affrica. Dwi´n gallu gwrando ar radio´r BBC trwy´r cyfrifiadur yma felly dyma fi´n ei roi ymlaen…ond som am siomedigaeth!! Does ganddyn nhw ddim yn hawlfraint i ddarlledu chwaraeon byw!! A´r hyn gefais ar 5live oedd ailadroddiad o´r rhaglen cyn gem beldroed ffeinal yr FA llynedd!! Felly, roedd rhaid i mi ´wylio´r´ gem ar y gwasanaeth testun ar BBC sport!! Dim hyn oedd gen i mewn golwg o gwbl!

Mi oedd pobl Trevelin wedi trefnu te croeso i mi´r noson honno a dyma fi´n dal y bws yno, yn teimlo tipyn gwell erbyn hyn, ond ddim am fwyta dim melys rhag ypsetio´r ddaint. Ond sut allwn i wrthod yr holl ddanteithion blasus oedd wedi eu paratoi ar fy nghyfer! Digywilydd fyddai hynny! Cefais gwrdd â phobl glên Trevelin ac mi roedd y gacen almon yn fendigedig! Dwi´n edrych ymlaen i ddod i Drevelin, maen nhw´n bobl tebyg i bobl Pentrecelyn!

Dydd Sul Mehefin 21




Mi oedd hi´n Ddiwrnod y Tad heddiw a rhan fwyaf o bobl yr ardal yn treulio´r diwrnod gyda´u teuluoedd. Es i draw i Drevelin at y bobl eraill dideulu yma a mynd am dro i gwmpas y pentref gyda Clare a Heledd. Roedd hi´n ddiwrnod braf a cefais weld yr olygfa odidog o´r mynyddoedd o´r diwedd. Aethom am bizza i ddiweddu´r diwrnod, daeth llawer o´r Eidal drosodd i ´r Ariannin yn y ganrif ddiwethaf ac mae bwyd Eidaledd blasus iawn i´w gael.


Dydd Llun Mehefin 22


Mi oedd rhaid mynd i edrych am ddeintydd y bore yma doedd. Aeth Joyce a fi i dri neu bedwar lle gwahanol nes i rywun all edrych arnaf. Mae´r deintydd yn brysur iawn yma mae´n amlwg, yr holl dulce de leche ´falle! Dyma´r deinydd yn agor y ´filling´ac yn dechrau busnesa yn y daint, doedd hi ddim yn gweld arwydd o ddim byd yn y pelydr x, ond ar ol archwilio gyda nodwydd (yn boenus iawn!) dyma hi´n dod o hyd i´r drwg ac yn dangos y nodwydd llawn puss yn fuddugoliaethus o flaen fy llygaid! Wel son am wingo mewn poen, ac ar ol cael y tabledi gwrthfiotig mwyaf dwi erioed wedi eu gweld (digon i ladd ceffyl dwi´n siwr!) fe leddfodd y boen. Treuliais weddill y diwrnod yn teimlo´n drist iawn drostaf fi´n hun, ew peth cas ydi bod mewn gwewyr mewn gwlad ddiarth! Mi oedd Joyce yn werth y byd a dwn i ddim beth faswn i wedi gwneud hebddi!! Diolch yn fawr IAWN Joyce!


Dydd Mercher Mehefin 24


Dwi´n mynd i Drevelin ar fore dydd Mercher i gynorthwyo gyda´r dosbarth Wlpan ac oherwydd mai dyma´r tro cyntaf i mi fynd ac nad oes gennyf i oriad eto, penderfynais fynd ar y bws 9 fel nad oedd rhaid i mi sefyll tu allan i´r ysgol am dri chwarter awr (gan ei bod hi mor ofnadwy o oer!)…ond ni weithiodd y cynllun o gwbl! Ni ddaeth y bws 9 o´r gloch ac mi oeddwn i´n fferu yn yr arhosfa fws nes deg munud wedi deg!! Mi oedd y dosbarth drosodd erbyn i mi gyrraedd!! Mae dod i arfer peidio cael car a gorfod dibynnu ar fysys yn mynd i fod yn anodd iawn. Ond mi ges oriad, felly ni fydd problem y tro nesa!
Es i fyny i Casaverde, yr hostel yn Nhrevelin i edrych am Heledd ac aeth y ddwy ohonom at yr arhosfa i ddal y bws 12:15 nol i Esquel…ond doedd dim bws 12:15 wrth gwrs! Roedd rhaid i ni aros tan 1 am y bws nesa! Mae´n siwr bod bobl yn chwerthin ar ben yr eneth yn y got wen sy´n gwneud dim ond sefyll yn aros am fws yn yr oerfel!
Mi wnaethom benderfynu ein bod ni´n haeddu cinio yn y caffi neis yn y dre, La Luna i gynhesu, a submarino bach wrth gwrs. Ac fel ´treat´bach i goronni´r cyfan, ges i waffles dulce de leche….hmmm sgwn i pam fod gen i´r ddannodd!!

1 comment:

  1. Helo Lois! Wedi dod ar draws dy flog drwy Twitter a wedi mwynhau darllen. Gweld dy fod wedi cyfarfod Elis Williams yn Nhrevelin, roedd o'n gefndir i fy nhaid. Wastad yn od ffeindio llunia o dy deulu ar ochr draw'r byd!

    Hwyl
    Mari

    ReplyDelete